Fel we Iesu'n ishte ar Fini'r Llwyn Oil, goddereb â'r Demel, gofino Pedr, Iago, Ioan a Andreas iddo fe pan wedd‐e ar ben i unan, “Gwed wrthon ni, pryd ddigwiddith i pethe 'ma, a beth bydd 'na i weu 'thon ni bo'r pethe ma'n mynd i ddigwydd?” Gwedo Iesu wrthon nhwy, “Watshwch mas na fydd neb in ich twyllo chi. Bydd lot in dwâd in iwso'n enw i a gweud, ‘Fi yw e’, a biddan‐nhwy'n twyllo lot fowr o ddinion. On pan biddwch‐chi'n cliwed am rifelodd a dinion in sharad am rifelodd peidwch chi becso. Ma rhaid i'r pethe 'ma ddigwydd, on seno'r diwedd in mynd i ddwâd 'to. Achos bydd cenel in codi in erbyn cenel arall, a teyrnas in erbyn teyrnas arall; bydd i ddeiar in crinu in lot o lefydd, a bydd dinion in starfo. Dachre'r pethe ofnadw fydd hyn i gyd.”
“On rhaid i chi gadw lligad trw'r amser. Biddan‐nhwy in ich rhoi chi i gâl ich barnu in i cwrt; cewch‐chi'ch whipo in i sinagoge; a fe sefwch‐chi'ch prawf o flân lliwodreithwyr a brenhinodd o'n achos i. Pan fiddwch‐chi fan 'ny gallwch‐chi weud amdana i, achos ma'n rhaid i'r Ifingyl gâl i phrigethu i'r cenedlodd i gyd. A pan bo nhwy'n dwâd â chi miwn i'r cwrt, in ich rhoi chi miân i gâl ich barnu, peidwch becso cyn 'ny beth ÿch‐chi'n mynd i weud; na, gwedwch beth binnag sy'n câl i roi i chi weud ar i pryd; achos ddim chi fydd in sharad, ond ir Isbryd Glân. Bydd brawd in rhoi brawd i gâl i ladd, a tad in rhoi i blentyn, a bydd plant in troi in erbyn u tade a'u mame a'n u lladd nhwy. Bydd neb in galler ich haru chi achos ich bo chi'n ffiddlon i fi; on bydd hwnnw sy'n i stico ati hyd i diwedd in câl i achub.”