Marc 13
13
Iesu'n gweud bo'r Demel in mynd i gâl i dinistrio
1-2Fel we Iesu'n gadel i Demel, gwedodd un o'i ddisgiblion wrtho fe, “Dricha, Mishtir, 'na gerrig mowr a 'na fildins mowr sy fan 'yn!” A wedodd Iesu wrtho fe, “Wit‐ti'n gweld i bildins mowr 'na? Fydd ddim un carreg ar ben carreg arall in câl u gadel 'ma na fiddan nhwy'n câl u whalu i gyd.”
Dachre'r pethe ofnadw
3-13Fel we Iesu'n ishte ar Fini'r Llwyn Oil, goddereb â'r Demel, gofino Pedr, Iago, Ioan a Andreas iddo fe pan wedd‐e ar ben i unan, “Gwed wrthon ni, pryd ddigwiddith i pethe 'ma, a beth bydd 'na i weu 'thon ni bo'r pethe ma'n mynd i ddigwydd?” Gwedo Iesu wrthon nhwy, “Watshwch mas na fydd neb in ich twyllo chi. Bydd lot in dwâd in iwso'n enw i a gweud, ‘Fi yw e’, a biddan‐nhwy'n twyllo lot fowr o ddinion. On pan biddwch‐chi'n cliwed am rifelodd a dinion in sharad am rifelodd peidwch chi becso. Ma rhaid i'r pethe 'ma ddigwydd, on seno'r diwedd in mynd i ddwâd 'to. Achos bydd cenel in codi in erbyn cenel arall, a teyrnas in erbyn teyrnas arall; bydd i ddeiar in crinu in lot o lefydd, a bydd dinion in starfo. Dachre'r pethe ofnadw fydd hyn i gyd.”
“On rhaid i chi gadw lligad trw'r amser. Biddan‐nhwy in ich rhoi chi i gâl ich barnu in i cwrt; cewch‐chi'ch whipo in i sinagoge; a fe sefwch‐chi'ch prawf o flân lliwodreithwyr a brenhinodd o'n achos i. Pan fiddwch‐chi fan 'ny gallwch‐chi weud amdana i, achos ma'n rhaid i'r Ifingyl gâl i phrigethu i'r cenedlodd i gyd. A pan bo nhwy'n dwâd â chi miwn i'r cwrt, in ich rhoi chi miân i gâl ich barnu, peidwch becso cyn 'ny beth ÿch‐chi'n mynd i weud; na, gwedwch beth binnag sy'n câl i roi i chi weud ar i pryd; achos ddim chi fydd in sharad, ond ir Isbryd Glân. Bydd brawd in rhoi brawd i gâl i ladd, a tad in rhoi i blentyn, a bydd plant in troi in erbyn u tade a'u mame a'n u lladd nhwy. Bydd neb in galler ich haru chi achos ich bo chi'n ffiddlon i fi; on bydd hwnnw sy'n i stico ati hyd i diwedd in câl i achub.”
Jerwsalem in cwmpo a crwt i Dyn in dwâd
14-27“Pan gwelwch chi'r Peth Dichrinllyd Ofnadw in sefyll man lle ddile fe ddim (gobeitho bo chi sy'n darllen in diall beth ma 'na'n goligu), wedyn bydd in rhaid i'r rhei sy'n byw in Jiwdea jengid i'r minidde. Ddile'r dyn sy lan ar i to ddim dwâd lawr o gwbwl, na mynd miwn i'r tŷ i gâl unriw beth; a ddile'r dyn sy mas in i parc ddim troi nôl i moyn i got. A druan o'r menwod 'ny pryd 'ny sy'n dishgwil babi neu'n rhoi swc! Gweddiwch bo hyn ddim in digwydd in i geia. Achos bydd hyn in amser pan fydd pethe ofnadw in digwydd sy ddim wedi digwydd es i Dduw neud i byd, a ddigwiddith byth 'to wedi hyn. A os na fise'r Arglwi wedi birhau'r amser 'na, fise'r un dyn byw wedi câl i achub, on nâth e neud ir amser 'na in firrach ar gownt i rhei wedd e wedi'u dewish. Os wedith unriw un wrthoch chi'r amser 'ny, ‘Dricha, co'r Meseia’ neu, ‘Dricha, co fe’, peidwch credu 'ny. Bydd meseia celwiddog ar ôl meseia celwiddog a proffwyd celwiddog ar ôl proffwyd celwiddog in dwâd, a biddan‐nhwy in neud seins a rhifeddode fel u bo nhwy'n arwen i rhei sy wedi câl u dewish ar goll, os fidde na'n bosib. Ond watshwch chi; dwi wedi gweud hyn i gyd wrthoch chi mlân llaw.
Ond ir amser na, in dilyn amser i dioddefent,
‘Bydd ir houl in mynd in dewill,
a bydd i llouad ddim in rhoi i gole,
bydd i sêr in cwmpo o'r awyr,
a bydd i nerthodd in i nefodd in câl u shiglo.’
A wedyn fe welan‐nhwy Grwt i Dyn in dwâd in i cwmwle 'da nerth mowr a gogoniant. Wedyn halith‐e ir angilion, a gasglith e'r rhei mae‐e wedi u dewish o'r pedwar gwynt, o bendraw'r byd i bendraw'r nefodd pentigily.”
Disgu wrth i llwyn ffigs
28-31“Disgwch wers wrth i llwyn ffigs. Ginted ma'r brige in mynd in feddal a bo'r dail in dwâd, ŷch chi'n gwbod bo'r haf in agos. Run peth, pan gwelwch chi'r pethe hyn in digwydd, biddwch chi'n gwbod bo Crwt i Dyn in agos, wrth i drwse. Dwi'n gweud i gwir wrthoch‐chi, eith i genhedleth 'ma ddim heibo nes bo'r pethe 'ma wedi digwydd. Eith nefodd a deiar heibo, ond eith ing ngeire i byth heibo.”
Sneb in gwbod pryd fydd hyn
32-37“Ond sneb in gwbod pryd fydd i dydd neu'r awr 'na. Seno'r angilion in i nefodd in gwbod, na seno'r Crwt in gwbod whaith. Dim ond i Tad sy'n gwbod na.”
“Cadwch ligad, aroswch ar ddihun, achos senoch‐chi'n gwbod pryd bydd ir amser in dwâd. Mae‐e fel dyn sy'n gadel i dŷ a mynd dros i dŵr, a gadel i lle i'r gweishon ddirch ar i ôl; we da bob gwas i waith i neud, a we'r un we'n gofalu am i drws wedi cal ordors i aros ar ddihun. Arhoswch‐chi ar ddihun wedyn 'te, senoch‐chi'n gwbod pryd ddeith mishtir i tŷ; falle pan fydd hi'n tewyllu, falle ganol nos, falle fel ma'r ceilog in canu, ne in i bore. Aroswch ar ddihun, fel na bo fe'n dwâd in sidan a'ch ffindo chi'n cisgu. Dwi'n gweud beth dw‐i'n gweu‐'thoch chi wrth bob un, ‘Arhoswch ar ddihun!’ ”
Выбрано:
Marc 13: DAFIS
Выделить
Поделиться
Копировать

Хотите, чтобы то, что вы выделили, сохранялось на всех ваших устройствах? Зарегистрируйтесь или авторизуйтесь
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies