Marc 14
14
Trefnu shwt i ladd Iesu
1-2Dou ddwarnod we i fynd cyn bo'r Pasg a Gŵyl i Bara‐plac i fod. We'r penffeiradon a'r rhei we'n disgu'r Gifreth in treio ffeindo rhyw ffordd i dwyllo Iesu, i ddala fe a wedyn i ladd e. Ond wedon‐nhwy, “Allwn ni ddim i neud e 'ny amser bo'r Ŵyl mlân, neu falle ni gâl reiats”.
Iesu a'r fenyw 'da'r sent in Bethania
3-9We Iesu in Bethania in tŷ Seimon, i dyn we cwrên tost 'dag e. Pan wêdd‐e'n ishte wrth i ford in bita bwyd, dath menyw miwn ato fe in cario botel alabaster in llawn sent, (nard neis a drud iawn we'r sent 'ma). Torrodd i fenyw'r botel in agor a allwish i sent dros i ben e i gyd. We rhei dinion in gweud in gas wrth i gily, “Beth we'r point wasto'r sent 'na i gyd? Gallech chi fod wedi gwerthu'r sent am ganodd o bunne, a galle'r arian fod wedi câl i roi i'r bobol llwm”; a wên‐nhwy'n gas wrthi‐hi. Ond wedo Iesu, “Gadwch hi fod. Pam ŷch‐chi'n i phoeni 'ddi? Ma‐i wedi neud rhwbeth pert iawn i fi. Ma'r bobol llwm in mind i fod 'da chi rownbowt, a gallwch chi neud pethe da iddon nhwy pryd bennag ŷch‐chi moyn, ond bydda‐i ddim 'da chi o hyd. Mae‐i wedi neud beth galle‐hi: mae‐i wedi rhoi sent ar in gorff i in barod iddo gâl i gladdu. Dw‐i'n gweud i gwir wrthoch chi, ble binnag in i byd mowr 'ma bydd ir ifingyl in câl i phrigethu, bydd dinion in sôn amdani 'ddi, a bydd‐i'n câl i chofio.”
Jiwdas in folon bradichu Iesu
10-11Âth Jiwdas Iscariot, un o'r douddeg, at i penffeiradon a cinnig rhoi Iesu iddon nhwy. Wên‐nhwy'n falch pan gliwon‐nhwy hyn a fe roion‐nhwy arian i Jiwdas; a fe ddrichodd‐e am amser pan galle‐fe neud 'ny.
Iesu a'i ddisgiblion in cadw'r Pasg
12-21Ar ddydd cinta Gŵyl i Bara‐planc pan wên‐nhwy'n arfer offrimu wên i Pasg, gwedodd i ddisgiblion wrth Iesu, “Ble wit‐ti moyn i ni fynd i bartoi i ti gâl bita swper i Pasg?” Halodd‐e ddou o'i ddisgiblion, a gweu‐'thon nhwy, “Cerwch miwn i'r dre, a fe gwrddwch‐chi â dyn fan‐'ny in cario stên bridd llond dŵr. Dilinwch e, a pan eith‐e miwn i dŷ gwedwch wrth i dyn sy pia'r tŷ, ‘Ma'r Mishtir in gweud, “Ble ma'n rŵm i, man lle galla‐i fita swper i Pasg gida'n ddisgiblion i?” 'Ddangosith e rŵm mowr i chi lan loft, a bydd hwnnw wedi'i roi in barod. Fan‐'ny dw‐i moyn ichi baratoi pethe i ni.” Âth i disgiblion bant a miwn i'r dre; ffindon‐nhwy bopeth jwst fel wedd‐e wedi gweu'thon‐nhwy, a nethon‐nhwy beth we ishe i neud i fod in barod erbyn i Pasg.
Wedi 'ddi nosi dâth Iesu a'r Douddeg i'r rŵm, a fel wên‐nhwy'n ishte lawr wrth i ford in bita, wedodd‐e, “Dwi'n gweud i gwir wrthoch, bydd un onoch‐chi, sy'n bita bwyd 'da fi, in in fradichu i.” Torron‐nhwy'u calonne wedi cliwed hyn a gwedon‐nhwy wrtho fe un ar ôl i llall, “Seni'n bosib taw fi yw e?” Gwedodd‐e wrthon nhwy, “Un o'r douddeg, 'no; un onoch‐chi sy'n dipo'ch bara in ir un ddishgil â fi sy'n mynd in fradichu i. Achos ma Crwt i Dyn in mynd bant fel mae‐e wedi câl i reito amdano fe, on druan bach o'r dyn sy'n mynd i fradichu Crwt i Dyn! Bidde'n well i'r dyn 'ny na fidde‐fe wedi câl i eni o gwbwl!”
Swper ir Arglwi
22-26Amser wen‐nhwy'n bita cwmrodd Iesu fara, gweud i fendith, i dorri fe a'i roi fe iddon‐nhwy, a gweud, “Cwmrwch i bara; hwn yw ing nghorff i.” Cwmrodd e'r ddish wedyn, jolch i Dduw, a rhoi hwwnw iddon nhwy, a fe ifon nhwy e. Gwedodd‐e wrthon nhwy, “Co'n wâd i, gwâd i cifamod, sy'n cal i allwish ar gownt lot o ddinion. Dwi'n gweud i gwir wrthoch chi, ifa‐i ddim 'to o ffrwyth i llwyn grêps hys i dydd pan fidda‐i'n i ifed e shwrne 'to in Teyrnas Duw.” Canon‐nhwy emyn, a ethon‐nhwy mas i Fini'r Llwyn Oil.
Iesu'n gweud bidde Pedr in i wadu e
27-31Gwedo Iesu wrthon nhwy, “Sdim un onoch chi fydd in i stico hi mas pa eith pethe'n galed, achos ma'r Sgrithur in gweud fel hyn, ‘Bwra‐i'r bugel, a bydd i defed in câl u sgwaru i bob man’; ond wedi i fi gâl in godi bidda‐i'n mynd o'ch bleine chi i Galilea.” Gwedodd Pedr wrtho fe, “Hyd 'n‐ôd os eith bob un arall bant, â i ddim bant a di adel di.” Gwedo Iesu wrtho, “Dw‐i'n gweud i gwir wrthot ti, i feri nosweth 'ma, cyn i'r ceilog ganu ddwyweth, byddi‐di wedi'n wadu i dair gwaith.” Ond teirodd, “Os bise'n rhaid i fi farw 'da ti, 'na i ddim di wadu di.” Nâth bobun arall weud 'run peth in gowir.
Gethsemane
32-42Ethon‐nhwy i le o'r enw Gethsemane, a gwedo Iesu wrth i ddisgiblion, “Ishteddwch fan‐'yn wrth i fi weddïo.” Cwmrodd‐e Pedr a Iago a Ioan 'dag e. Wedde‐e'n becso a wedi'i drwbli lot, a gwedodd‐e wrthon nhwy, “Dw‐i'n godde'n ombeidus. Sticwch chi fan‐'yn a cadwch ligad ar bethe.” Âth‐e i unan mlân rhiw damed bach, a cwmpodd‐e i'r llawr a gweddïo a gweddïo os we ffordd i gâl i'r peth ofnadw we o'i flân e fynd heibo 'ddo fe. “Abba, in Dad i, wit‐ti'n galler neud bopeth. Simuda'r ddish 'ma bant wrtho i; ond peida di neud fel dw‐i moyn, on nêd‐di fel wit‐ti moyn.” Dâth Iesu nôl a'u ffindo nhwy'n cisgu. Gwedodd‐e wrth Pedr, “Seimon, wit‐ti'n cisgu? Wenoch‐chi galler cadw lligad am awr fach? Cadwch ligad a gweddïwch, fel bo chi ddim in câl ich profi. Ma'r isbryd in barod i neud i peth, on ma'r natur ddinol in wan.” Âth‐e bant weth a gweddïo, a gweud ir un geire. Dâth‐e nôl 'to a'u ffeindio nhwy in cisgu weth, achos we'u lliged nhwy'n drwm 'da cwsg; wenon‐nhwy gwbod shwt i ateb e'r tro 'ma. Dâth‐e nôl am i tridydd gwaith, a gweu 'thon‐nhwy, “Cisgwch mlân, bwrwch ich blinder. Na ddigon! Ma'r awr wedi dwâd! Drichwch, ma Crwt i Dyn in câl i roi in dwylo pechaduried. Codwch, a gadwch i ni fynd! Drichwch, ma'r un sy'n mynd in fradichu in dwâd!”
Iesu'n câl i fradichu a'i ddala
43-52Fel wedd‐e'n sharad dâth Jiwdas, un o'r Douddeg aton nhwy. Gida Jiwdas we crowd in cario pastwne a cleddife. I penffeiradon, i rhei we'n disgu'r Gifreth, a'r henuired, we wedi'u hala nhwy. A we'r un we'n mynd i fradichu Iesu iddon nhwy wedi trefnu sein 'da'r crowd, a gweud, “I dyn gusana i yw'r dyn ÿch‐chi moyn. Dalwch e a cerwch ag e bant o dan gârd.” Dâth Jiwdas a mynd in gowir at Iesu a'i gifarch e, a gweud, “Rabbi”, a wedyn i gusanu fe. Rhoion‐nhwy'u dwylo arno fe a'i ddala. Tinodd rhywun we'n sefyll ar bwys i gleddyf mas, a bwrodd‐e geithwas i Ffeirad Mowr a torri i glust e bant. Ar hyn gwedodd Iesu wrthon nhwy, “Odych‐chi wedi dwâd mas i'n aresto i fel bisech‐chi dwâd ar ôl lleidir, 'da cleddife a pastwne? Disges‐i in ich canol chi in i Demel bob dy', a nethoch ddim in ddala i pyr‐'ny. Ond gadwch i bethe gal u neud fel ma'r Sgrithur in gweud.” Gadodd i disgiblion e i gyd a rhedeg bant.
We crwt ifanc, wedd e'n gwishgo dim byd ond llien, in dilyn Iesu a fe ddalon nhwy fe. Ond fe jengodd e in borcyn, a gadel i llien ar i ôl.
Iesu o flân i Cownsil
53-65Ethon‐nhwy bant â Iesu at i Ffeirad Mowr, i penffeiradon i gyd, ir henureid, a'r rhei we'n disgu'r Gifreth. Wên‐nhwy i gyd wedi dwâd at i gily. Ddilinodd Pedr Iesu o bell bant a mynd miwn i glôs tÿ'r Ffeirad Mowr. Ishteddodd Pedr 'da'r gweishon fan‐'ny, in twmo i unan wrth i tân.
We'r penffeiradon a'r rhei i gyd we ar i Cownsil in drich am rwbeth in erbyn Iesu fel gallen‐nhwy i ladd e, ond ffindion‐nhwy ddim byd o gwbl. Gwedo lot o ddinion gelwy in i erbyn e, on wên‐nhwy'n wmed weud i gily. Cododd rhei a gweud celwy in i erbyn e, a gweud, “Cliwon‐ni'n hunen e'n gweud, ‘Bwra‐i'r Demel 'ma ma dwylo dinion wedi neud lawr, a wedi tri dwarnod coda‐i un arall, ond tro 'ma ddim dwylo fydd wedi'i neud hi.’ ” On weno'r hyn we 'da nhwy i weud in cyd‐fynd. Safodd i Ffeirad Mowr lan o'i blân nhwy a holi Iesu, a gweud, “Beth yw'r pethe ma sa nhwy i weud in di erbyn di?” On wêdd‐e'n dawel, wedodd‐e ddim byd o gwbwl. Gofino'r Ffeirad Mowr iddo fe weth, a gweud, “Ti yw'r Meseia, Crwt ir Un Bendigedig, 'dife?” Gwedo Iesu, “Ie, fi yw e; a gwelwch‐chi Grwt i Dyn in ishte ar law dde'r Duw Mowr, ac in dwâd 'da cwmwle'r nefodd.” Rhicodd i Ffeirad Mowr i ddillad a gweud, “Pam ma ishe dinion i weud in i erbyn e arnon ni? Ŷch‐chi wedi cliwed i gable 'da'ch cluste'ch hunen. Beth ŷch‐chi'n gweud?” Wên‐nhwy i gyd in meddwl i fod e'n euog, a'n heiddu marw.
Powrodd rhei dinion arno fe, rhoiodd rhei erill rwbeth dros i wmed e a'i ddwrnu fe, a gweud, “Proffwyda nawr!” Cwmordd i gweishon e bant a'i fwrw fe reit grôs i wmed.
Pedr in gwadu Iesu
66-72Amser we Pedr lawr in i clôs, dâth un o forinion i Fferiad Mowr lan ato fe. Gwelodd‐i Pedr in twmo i unan a fe ddrichodd‐i arno fe, a gweud, “Wet‐ti fyd 'da'r dyn 'na o Nasareth — Iesu.” Ond nâth‐e wadu, a gweud, “Sena‐i'n gwbod na'n diall beth wit‐ti'n gweud.” Âth Pedr mas i'r clôs bach, a fe ganodd i ceilog. Gwelo'r forwm e weth a gwedodd‐i wrth i rhei we'n sefyll ar bwys, “Ma'r dyn 'ma in un onyn‐nhwy.” Ond fe wadodd e fe shwrne 'to. A wedi tamed bach tima'r rhei we'n sefyll ar bwys in gweud wrth Pedr, “Wit‐ti'n bendant in un onyn‐nhwy, achos wit‐ti'n dwâd o Galilea.” Rhegodd Pedr a tingu, a gweud, “Sena‐i'n nabod i dyn 'ma ŷch‐chi'n sharad amdano fe”. Wedyn fe ganodd i ceilog am ir ail waith; a cofiodd Pedr am i geire we Iesu wedi gweu‐'tho fe, “Cyn i'r ceilog ganu'r ail waith bydd di wedi'n wadu i dair gwaith.” Llefodd Pedr im mwrder.
Выбрано:
Marc 14: DAFIS
Выделить
Поделиться
Копировать

Хотите, чтобы то, что вы выделили, сохранялось на всех ваших устройствах? Зарегистрируйтесь или авторизуйтесь
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies