Marc 13:14-27
Marc 13:14-27 DAFIS
“Pan gwelwch chi'r Peth Dichrinllyd Ofnadw in sefyll man lle ddile fe ddim (gobeitho bo chi sy'n darllen in diall beth ma 'na'n goligu), wedyn bydd in rhaid i'r rhei sy'n byw in Jiwdea jengid i'r minidde. Ddile'r dyn sy lan ar i to ddim dwâd lawr o gwbwl, na mynd miwn i'r tŷ i gâl unriw beth; a ddile'r dyn sy mas in i parc ddim troi nôl i moyn i got. A druan o'r menwod 'ny pryd 'ny sy'n dishgwil babi neu'n rhoi swc! Gweddiwch bo hyn ddim in digwydd in i geia. Achos bydd hyn in amser pan fydd pethe ofnadw in digwydd sy ddim wedi digwydd es i Dduw neud i byd, a ddigwiddith byth 'to wedi hyn. A os na fise'r Arglwi wedi birhau'r amser 'na, fise'r un dyn byw wedi câl i achub, on nâth e neud ir amser 'na in firrach ar gownt i rhei wedd e wedi'u dewish. Os wedith unriw un wrthoch chi'r amser 'ny, ‘Dricha, co'r Meseia’ neu, ‘Dricha, co fe’, peidwch credu 'ny. Bydd meseia celwiddog ar ôl meseia celwiddog a proffwyd celwiddog ar ôl proffwyd celwiddog in dwâd, a biddan‐nhwy in neud seins a rhifeddode fel u bo nhwy'n arwen i rhei sy wedi câl u dewish ar goll, os fidde na'n bosib. Ond watshwch chi; dwi wedi gweud hyn i gyd wrthoch chi mlân llaw. Ond ir amser na, in dilyn amser i dioddefent, ‘Bydd ir houl in mynd in dewill, a bydd i llouad ddim in rhoi i gole, bydd i sêr in cwmpo o'r awyr, a bydd i nerthodd in i nefodd in câl u shiglo.’ A wedyn fe welan‐nhwy Grwt i Dyn in dwâd in i cwmwle 'da nerth mowr a gogoniant. Wedyn halith‐e ir angilion, a gasglith e'r rhei mae‐e wedi u dewish o'r pedwar gwynt, o bendraw'r byd i bendraw'r nefodd pentigily.”