Marc 13:32-37
Marc 13:32-37 DAFIS
“Ond sneb in gwbod pryd fydd i dydd neu'r awr 'na. Seno'r angilion in i nefodd in gwbod, na seno'r Crwt in gwbod whaith. Dim ond i Tad sy'n gwbod na.” “Cadwch ligad, aroswch ar ddihun, achos senoch‐chi'n gwbod pryd bydd ir amser in dwâd. Mae‐e fel dyn sy'n gadel i dŷ a mynd dros i dŵr, a gadel i lle i'r gweishon ddirch ar i ôl; we da bob gwas i waith i neud, a we'r un we'n gofalu am i drws wedi cal ordors i aros ar ddihun. Arhoswch‐chi ar ddihun wedyn 'te, senoch‐chi'n gwbod pryd ddeith mishtir i tŷ; falle pan fydd hi'n tewyllu, falle ganol nos, falle fel ma'r ceilog in canu, ne in i bore. Aroswch ar ddihun, fel na bo fe'n dwâd in sidan a'ch ffindo chi'n cisgu. Dwi'n gweud beth dw‐i'n gweu‐'thoch chi wrth bob un, ‘Arhoswch ar ddihun!’ ”