Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Sgyrsiau gyda DuwSampl

Conversations With God

DYDD 5 O 14

Nôl yn y nawdegau cynnar, dechreuais i 'm gŵr, Richard, ddechrau trafod y posibilrwydd o newid ein haelodaeth eglwys o ddeng mlynedd. Roedden ni'n hiraethu am addoliad mwy modern ac yn gweld dim arwydd o newid ar y gorwel. Ar ôl nifer o fisoedd, roedden ni wedi cyrraedd at dri posibiliad ac yn rhagweld ein hymadawiad.

Yn y cyfamser roedden ni wedi cytuno i fynychu penwythnos adnewyddiad ysbrydol. Y dynion aeth gyntaf, a dilynodd encil y merched bythefnos yn ddiweddarach. Roedden ni'n gynhyrfus am y cyfle i fod i ffwrdd gyda'r eglwys yn y tymor "rhwng eglwysi" hyn.

Trodd tridiau Richard yn adfywiad personol - gallwn i ei weld e ar ei wyneb pan ddaeth e gartref ar y nos Sul. Wrth iddo adrodd nôl dechreuais hiraethu o ddifri am fy adnewyddiad i oedd ar fin dod.

Ar ôl rhannu nifer o fanylion trodd at y pwnc roedd wedi'i gadw'n ofalus tan y diwedd. siaradodd yn blaen gan esbonio fod yr Arglwydd wedi datgelu iddo nad oedden nhw i adael yr eglwys - dyna ble roedden ni i fod i aros. Pan oedd gen i eiriau i ateb gyda nhw, ddwedes i'n hallt nad oedd yr Arglwydd wedi datgelu'r ffaith hynny imi, ac roedd yn amlwg wedi camddeall Duw, a'i ymateb doth iawn oedd y dylen ni aros a gweld.

Tua hanner ffordd drwy ddiwrnod olaf fy encil i, siaradodd yr Arglwydd â mi hefyd. Un funud ro'n i'n ddedwydd anymwybodol, a'r nesaf ro'n i'n deall yn derfynol: Roedden ni i aros yn ein heglwys gartref. Dyna'r diwedd. Tarodd fy ewyllys rhag-dybiedig, ewyllys gadarn ddisymudol Duw, fel car yn taro i mewn i ganllaw dur gaerog.

Wedi fy ysgwyd ac yn sâl, dechreuodd y dagrau o alar go iawn. Gofynnwyd am fy ufudd-dod. Roedd Duw yn gofyn i ni aros ac ar y funud honno fedrwn i ddim ddeall ymresymiad Duw. Cymerodd flynyddoedd i ddeall y rheswm. Yn y cyfamser benderfynon ni ufuddhau ac aros.

Yr hyn ddilynodd oedd toriadau dwfn yn fy agwedd drahaus - aw, wedi'i ddilyn gyda gwaith cwrs mewn gostyngeiddrwydd. - aw gymaint mwy. Enillais rhai o'r gwersi bywyd mwyaf annwyl oherwydd imi ufuddhau ac fe'm gorfodwyd i'w dysgu.

Er mawr syndod i mi fe ailadeiladwyd ein heglwys hefyd yn amseriad tyner Duw. Nawr dw i'n gwybod o brofiad y gall yr Arglwydd newid unrhyw un - hyd yn oed fi. Ac roedd gweld adfywiad yn fy eglwys gartref yn werth aros amdani. Mae bendith bob amser yn dilyn ufudd-dod.

Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Conversations With God

Mae Sgyrsiau gyda Duw yn drochiant llawen i mewn i fywyd agosach o weddi, gan bwysleisio ffyrdd mwy ymarferol o glywed llais Duw. Mae Duw eisiau i ni fwynhau sgwrs ddi-ddiwedd ag e drwy ein bywyd cyfan - sgwrs sy'n gwneud gwahaniaeth ym mhob cyfeiriad, perthnasoedd a phwrpas. Mae'r cynllun hwn wedi'i lenwi â storïau tryloyw a phersonol am gyrraedd calon Duw. Mae e'n ein caru ni!

More

Hoffem ddiolch i Susan Ekhoff am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth ewch i: https://www.amazon.com/Prayer-That-Must-Power-Conversational/dp/1496185560/ref=sr_1_1?ie=UTF8&qid=1498693709&sr=8-1&keywords=prayer+that+must%2C+the+power+of+conversational+prayer