Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Sgyrsiau gyda DuwSampl

Conversations With God

DYDD 4 O 14

Dirnad a mwynhau llais Duw yw'r antur mwyaf cynhyrfus yn fy mywyd. Mae ei lais yn dod â'i hanfod a'i gofleidio. Wrth iddo siarad. mar e'n fy llethu gyda'i gariad. Felly mae adnabod ei lais yn gyfarfyddiad arbennig.

Yr arwydd cyntaf imi fod yr Arglwydd yn siarad yw fod ei lais yn, mynnu fy sylw. Weithiau mae ei lais yn ddigamsyniol. Ond mae ei eiriau'n gallu swnio fel fy ngeiriau neu ddychymyg fy hun neu gyfraniad y rhai o'm cwmpas. Yna dw i'n meddwl, "A yw'r Arglwydd yn siarad neu ydw i wedi fy hudo gan fy meddyliau, ewyllys, ac emosiynau fy hun?"

Gofynnais i'r Arglwydd unwaith am fy nghyfyng-gyngor wrth geisio adnabod ei lais. Wnaeth yr hyn ddatgelodd fy synnu. Dwedodd, am nawdeg y cant o'r amser ro'n i'n stopio i ystyried os mai ei lais e oedd yn siarad, ei lais e oedd e go iawn. Yna, ro'n i wedi f'arswydo ro'n i wedi anwybyddu ei sibrydion gymaint o weithiau a'r canlyniad oedd anufudd-dod haerllug. Fy rheol: Os oes rhaid imi stopio a gofyn, "Ai'r Arglwydd ydy hyn?" - Duw yw e, mwy na thebyg! Mae'r ddirnadaeth ar sut i symud ymlaen yn dilyn y gydnabyddiaeth mai e sy'n siarad.

Nawr, dw i'n hiraethu am lais yr Arglwydd. Mae ei feddyliau yn ddoethineb llwyr, felly'n hollol i'r gwrthwyneb o fy nhueddiadau i. Pan mae e'n siarad, mae ei eiriau yn dwyn gwirionedd, gan ehangu fy nealltwriaeth gyfyngedig gyda'i gyngor. Yng nghanol ei ddatguddiad neu gyfarwyddyd ffres, dw i'n aml yn gweld bod fy nealltwriaeth wedi symud mor annisgwyl fel nad ydw i'n gwybod un funud, nad ydw i'n ymwybodol; y funud nesaf dw i'n gwybod rhywbeth mor derfynol nes fy mod yn dweud yn anwirfoddol, “O! Nawr dw i'n deall."

Wrth i'm hysbryd ddirnad ei lais a'i bresenoldeb parhaol, mae heddwch yn aml yn mynd i mewn ac ymledu, neu mae llawenydd pur yn codi o'm mewn. Mae dagrau di wahoddiad yn gallu dilyn. Dw i'n meddwl mai ei garedigrwydd sy'n erfyn ymateb ar sawl lefel. Mae ei lais yn erfyn fy ymateb - sy'n arwain at yr rhan nesaf o'n sgwrs barhaus.

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Conversations With God

Mae Sgyrsiau gyda Duw yn drochiant llawen i mewn i fywyd agosach o weddi, gan bwysleisio ffyrdd mwy ymarferol o glywed llais Duw. Mae Duw eisiau i ni fwynhau sgwrs ddi-ddiwedd ag e drwy ein bywyd cyfan - sgwrs sy'n gwneud gwahaniaeth ym mhob cyfeiriad, perthnasoedd a phwrpas. Mae'r cynllun hwn wedi'i lenwi â storïau tryloyw a phersonol am gyrraedd calon Duw. Mae e'n ein caru ni!

More

Hoffem ddiolch i Susan Ekhoff am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth ewch i: https://www.amazon.com/Prayer-That-Must-Power-Conversational/dp/1496185560/ref=sr_1_1?ie=UTF8&qid=1498693709&sr=8-1&keywords=prayer+that+must%2C+the+power+of+conversational+prayer