Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Sgyrsiau gyda DuwSampl

Conversations With God

DYDD 1 O 14

Mae rhai o atgofion melysaf fy mhlentyndod o amgylch cadair siglo yng nghegin fy nain. Pan beintiodd hi rannau o'r gegin yn goch, penderfynodd beintio'r gadair hefyd. Treuliais sawl ymweliad ar y gadair yn siglo, syllu, siglo a gwrando a mwynhau ddirfawr mynd a dod y gegin.

Dw i'n dal i allu gweld nain, yn ffwdanu yma ac acw wrth i'r stêm godi o'r potiau ar y stôf, a chyw iâr goginio'n y sgilet drydan. ac yn siarad pymtheg i'r dwsin. Roedd treulio amser gyda phobl yn egnïo nain. Roedd hi'n fy ngharu i, ac ro'n i'n gwybod hynny, ac ro'n i'n ei charu hi â'm holl galon.

Mae nain wedi mynd i'r nefoedd ers blynyddoedd, ond mae'r sgyrsiau brofais yn y gadair siglo am aros gyda fi a'm codi. Mae nhw'n rhan o'm magwraeth.

Sawl blwyddyn yn ôl pasiodd mam y gadair siglo 'mlaen imi - o'r gorau plediais i mam amdani ac ildiodd! Mae'r gadair yn ran canolog o'm cartref; yn le i ddarllen llyfrau'n uchel, hel straeon gyda'r teulu a ffrindiau, a magu fy wyres. Pan dw i ddim yna mae fy nghalon yn ddisgwylgar am fynd nôl!

Yn yr un ffordd â phan dw i'n eistedd yn y gadair siglo'n fy atgoffa o gwmnïaeth fy nain, a'm agosatrwydd at y teulu dw i'n garu heddiw, mae agor y Beibl yn ein harwain i'r sedd orau yn y cartref i ymweld â'r Arglwydd am ennyd. Pan nad ydyn ni'n eistedd gydag e, mae ei galon enfawr yn ddisgwylgar ohonom!

Mae Iesu'n eiddgar i'n denu i mewn i'w Air ble dŷn ni'n dechrau amgyffred mawredd ei gariad tuag atom a sut gallwn ei garu nôl. Wrth i ni oedi gydag e mae doethineb ei datguddiad ei air - ei feddyliau a'i bwrpas - yn cael eu datgelu. Mae'r rheiny sy'n mynd mewn i'r Ysgrythurau'n agored a diffuant yn methu aros yr un fath - mae eu golwg ar y byd wedi'i asio gyda'i fywyd e. Mae Iesu'n cymryd ei Air ac yn sgwennu ar etifeddiaeth ein calonnau. Ac wrth iddo wneud dŷn ni'n cael ein newid o ogoniant i ogoniant.

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Conversations With God

Mae Sgyrsiau gyda Duw yn drochiant llawen i mewn i fywyd agosach o weddi, gan bwysleisio ffyrdd mwy ymarferol o glywed llais Duw. Mae Duw eisiau i ni fwynhau sgwrs ddi-ddiwedd ag e drwy ein bywyd cyfan - sgwrs sy'n gwneud gwahaniaeth ym mhob cyfeiriad, perthnasoedd a phwrpas. Mae'r cynllun hwn wedi'i lenwi â storïau tryloyw a phersonol am gyrraedd calon Duw. Mae e'n ein caru ni!

More

Hoffem ddiolch i Susan Ekhoff am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth ewch i: https://www.amazon.com/Prayer-That-Must-Power-Conversational/dp/1496185560/ref=sr_1_1?ie=UTF8&qid=1498693709&sr=8-1&keywords=prayer+that+must%2C+the+power+of+conversational+prayer