Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Sgyrsiau gyda DuwSampl

Conversations With God

DYDD 2 O 14

Pan mae Duw'n barod i symud yn ein bywydau, mae datguddiad yn amlygu ei hun - hyd yn oed munudau, a gallwn gael mynediad i ffydd ac arferion oedd yn hollol estron i ni o'r blaen. Dyma'r dystiolaeth o'r math o ddeffro ysbrydol yn fy mywyd i.

Dechreuodd y cyfan pan glywais fod pobl Dduw'n cael eu galw i berthynas personol gyda'r Ysbryd Glân. Ro'n i wedi darllen am yr Ysbryd Glân yn yr Ysgrythurau, gweithredu ychydig yn ei roddion, mwynhau ei bresenoldeb, a chynhyrchu peth o'i ffrwyth ond doeddwn i ddim yn ei adnabod e. Dydw i ddim sut oeddwn i wedi methu'r rhan perthynol o fywyd yn yr Ysbryd. Ro'n i'n awchu i adnabod yr ysbryd Glân fel Duw gyda fi. Ond, sut y gallai fam i dri o blant ifanc ffeindio'r amser a nerth i fynd yn ddyfyn gyda Duw heb ymyrraeth?

Yn y pen draw creais gilfach yn y garej gyda deunyddiau astudio. cadair a bwrdd sbâr, a gosod y larwm am 4:30 y bore. Ie, 4:30 y bore! gymaint oedd fy newyn ysbrydol.

Pan ganodd y larwm gelyniaethus roedd hi'n amser codi. Rhoddais ddarlith llym i fi fy hun am bwysigrwydd am fy nhaith nes fy mod yn gallu taflu'r dillad gwely oddi arna i. Doedd y garej llwm ddim yn wobr am yr ymdrech. Yn lle ro'n i wedi fy nghau i mewn gyda mosgito parhaus. Roedd fy llygaid hanner ar gau, heb allu ffocysu. Ro'n i wedi cyrraedd, ond beth nesaf? Sut mae adnabod Ysbryd yr Arglwydd beth bynnag?

Allan o arferiad dechreuais drwy ganu a darllen y Beibl yn uchel am mai dyma oedd y ffordd orau i aros yn effro, ond ar ôl nifer o fisoedd daeth y llawenydd o ddisgyblaeth. Dysgais i ddibynnu ar yr Ysbryd Glân i ddatgelu meddyliau a bwriadau fy Nhad a gweddïo ar yr hyn ddatgelodd e. Daeth yr ysgrythurau'n fyw gyda'r Ysbryd Glân yn fy arwain. Trodd fy ngweddïo'n eofn - ac atebodd yr Arglwydd fy ngweddïau.

Yn niflastod dechreuol y strygl cefais fy nhemtio i roi'r gorau i'r nod. Ond pan wnes i ufuddhau i alwad parhaus a chryf yr Ysbryd i fynd gydag e, a'i adnabod fy hun, gallai fy nysgu i'w garu fel Person. Nawr, dw i'n gwybod o brofiad ein bod wedi ein creu ar gyfer perthynas agos gariadus gyda'r Ysbryd Glân. Mae e'n cychwyn pob sgwrs weddigar.

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Conversations With God

Mae Sgyrsiau gyda Duw yn drochiant llawen i mewn i fywyd agosach o weddi, gan bwysleisio ffyrdd mwy ymarferol o glywed llais Duw. Mae Duw eisiau i ni fwynhau sgwrs ddi-ddiwedd ag e drwy ein bywyd cyfan - sgwrs sy'n gwneud gwahaniaeth ym mhob cyfeiriad, perthnasoedd a phwrpas. Mae'r cynllun hwn wedi'i lenwi â storïau tryloyw a phersonol am gyrraedd calon Duw. Mae e'n ein caru ni!

More

Hoffem ddiolch i Susan Ekhoff am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth ewch i: https://www.amazon.com/Prayer-That-Must-Power-Conversational/dp/1496185560/ref=sr_1_1?ie=UTF8&qid=1498693709&sr=8-1&keywords=prayer+that+must%2C+the+power+of+conversational+prayer