Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Sgyrsiau gyda DuwSampl

Conversations With God

DYDD 10 O 14

Er ei bod hi wedi mynd i'r nefoedd cyn imi briodi i mewn i'r teulu, clywais lawer o storïau am nain fy ngŵr, Emma Bald Ekoff. Ei hetifeddiaeth oedd ei gweddïau angerddol. Cyfaddefodd un ffrind, "Roedd gweddïau Emma'n cyffwrdd y nefoedd." Felly gelli ddychmygu ein cynnwrf un prynhawn wrth fynd drwy hen focsys ddaethon ni ar draws rhai o'i manion cegin - ac yn eu canol - ei dyddiadur! Wrth agor y llyfryn bach brown dechreuais ddarllen yn ddisgwylgar. Roedd rhywbeth wedi'i sgwennu ar gyfer bron pob dyddiad ym 1942. Darllenais bob gair, ei gau a'i roi i gadw. Yn drist iawn doedd dim yna!

Mawrth 3: "Wedi smwddio heddiw a gwnïo'r tyllau yn fy sannau."

Mawrth 8: "Aethon ni i'r eglwys. Daeth douglas i ginio. Gwyntog heddiw."

Mawrth 9: "Glanhau'r selat heddiw. Diwrnod hyfryd. Sgwennais i

Diddorol? Oedd, oherwydd dyma oedd manylion bywyd teulu'n ystod canol y ganrif. Ond doedd yn ddim fwy na chipolwg ar fywyd. Y frawddeg mwyaf angerddol yn ystod y flwyddyn oedd, "Heddiw, mae hi'n benblwydd ar Dick (ei gŵr). dw i'n ei garu."

Ystyria hyn. Beth wyt ti'n feddwl y byddai'n ei olygu i gael ei bwriad mewn bywyd, neu nod ar gyfer y flwyddyn? Pa mor ddylanwadol y bydde briwsionyn o gyngor duwiol ymarferol, neu'n well eto beth oedd hi'n ei garu am Iesu a pham? Pa mor bwysig fyddai hi wedi bod wedi cael un weddi wedi'i chofnodi - dim ond un ?

Mae llyfryn bach Emma o mlaen i nawr, a rhaid imi feddwl: Tybed a fydde hi wedi sgwennu'n wahanol pe bai hi'n gwybod gymaint o'n i eisiau gwybod am ei pherthynas hi gyda Duw? A fydde hi wedi bod eisiau i'w phrofiad hi mewn gweddi gael ei gynnwys yn fy llyfr gweddi i? Does dim dwywaith y bydde hi.

Saithdeg mlynedd o nawr pan fydd einbocs ni o fanion yn cael ei agor gan genhedlaeth nad ydyn ni wedi'i cwrdd, pa gyfarchiad fydd yn llifo allan i olau dydd? A oes unrhyw beth yr hoffem ni ddweud am deulu? Am FFYDD? A oes gweddi yn ein calonnau i'r rhai fydd yn ein dilyn?

Mae ein gweddïau personol gyda Duw'n rhai gwerthfawr - yn werthfawr iawn, ac mae ganddyn nhw'r potensial pwerus i gyffwrdd cenedlaethau na fyddwn ni fyth yn eu cwrdd.

Diwrnod 9Diwrnod 11

Am y Cynllun hwn

Conversations With God

Mae Sgyrsiau gyda Duw yn drochiant llawen i mewn i fywyd agosach o weddi, gan bwysleisio ffyrdd mwy ymarferol o glywed llais Duw. Mae Duw eisiau i ni fwynhau sgwrs ddi-ddiwedd ag e drwy ein bywyd cyfan - sgwrs sy'n gwneud gwahaniaeth ym mhob cyfeiriad, perthnasoedd a phwrpas. Mae'r cynllun hwn wedi'i lenwi â storïau tryloyw a phersonol am gyrraedd calon Duw. Mae e'n ein caru ni!

More

Hoffem ddiolch i Susan Ekhoff am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth ewch i: https://www.amazon.com/Prayer-That-Must-Power-Conversational/dp/1496185560/ref=sr_1_1?ie=UTF8&qid=1498693709&sr=8-1&keywords=prayer+that+must%2C+the+power+of+conversational+prayer