Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Sgyrsiau gyda DuwSampl

Conversations With God

DYDD 12 O 14

,

Mae'r Ysgrythur yn cofnodi sawl enghraifft o bersbectif yr Arglwydd a'i arweiniad drwy freuddwydion. Ystyria Jacob, Joseff (mab Jacob), a Joseff (tad daearol Iesu). A dim ond ychydig yw'r rhain.

Yn gynnar un bore cefais freuddwyd dw i dal yn ei thrysori. Yn y freuddwyd gwelais garej i barcio digon di-nod. Wrth imi wylio gwelais ffrind yn ymlwybro at gar, agor drws, a chodi ei phlentyn ffwdanus i'w sedd. Roedd y fechan yn flin ac yn brwydro. Gydag amynedd tirion ond cadarn caeodd fy ffrind fwcl y sedd er gwaetha'r gwrthwynebiad. Syrthiodd i sedd y gyrrwr yn lluddedig ac wedi'i churo.

Wrth imi wylio'r olygfa, ro'n i wedi fy nharo gan y dyfalbarhad caredig, ac yn ogystal ag edmygu yn uniaethu â'i rhwystredigaeth ddramatig, arweiniodd at fy empathi. Fel mam hŷn gwyddwn y gwirionedd - tymor byr o fagwraeth fyddai hyn. Byddai'r wobr o fuddsoddiad ym mywyd ei merch yn dwyn ffrwyth, ond bydde rhaid iddi ddal ati.

roeddwn yn poeni'n ddirfawr na allai hi weld beth ro'n i ei weld yn hollol amlwg, felly, yn fy mreuddwyd dechreuais alw ar fy 2ffrind, "Paid rhoi fyny! Dalia ati!"

Wrth imi wylio, dechreuodd fy ffrind ymbalfalu am ei ffôn fel petai hi wedi clywed rywbeth ond doedd hi ddim yn siŵr o ble. Ddaeth hi fyth i wybod pwy oedd yn siarad na beth gafodd ei ddweud. Gyrrodd i ffwrdd heb bersbectif doethineb.

Ar ôl imi ddeffro, fe wnes i nodyn o'r freuddwyd a'r argraff adawodd arna i. Ac yn ystod y bore daliais ati i weddïo'n fyfyrgar ar y neges tebygol.

Rai oriau'n ddiweddarach, fe rannodd Duw y dehongliad - ro'n i mewn syndod. Roedd fy ffrind yn cynrychioli fi yn y freuddwyd, a'i lais uchel e oedd y llais o anogaeth. Cefais y freuddwyd adeg cyfnod anodd o fagwraeth. Roedd e am imi wybod ei fod yn gofalu ac y byddai fy nheulu yn symud ymlaen i gyfnodau newydd o fywyd. Roedd y mewnwelediad a gefais yn wers dwi fyth wedi'i hanghofio oherwydd, i ryw raddau, fe wnes i ei fyw drwy'r freuddwyd.

Diwrnod 11Diwrnod 13

Am y Cynllun hwn

Conversations With God

Mae Sgyrsiau gyda Duw yn drochiant llawen i mewn i fywyd agosach o weddi, gan bwysleisio ffyrdd mwy ymarferol o glywed llais Duw. Mae Duw eisiau i ni fwynhau sgwrs ddi-ddiwedd ag e drwy ein bywyd cyfan - sgwrs sy'n gwneud gwahaniaeth ym mhob cyfeiriad, perthnasoedd a phwrpas. Mae'r cynllun hwn wedi'i lenwi â storïau tryloyw a phersonol am gyrraedd calon Duw. Mae e'n ein caru ni!

More

Hoffem ddiolch i Susan Ekhoff am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth ewch i: https://www.amazon.com/Prayer-That-Must-Power-Conversational/dp/1496185560/ref=sr_1_1?ie=UTF8&qid=1498693709&sr=8-1&keywords=prayer+that+must%2C+the+power+of+conversational+prayer