Sgyrsiau gyda DuwSampl
Yn aml iawn bydd Duw'n siarad drwy deulu, ffrindiau, gweinidogion, neu awduron na wnawn ni fyth eu cwrdd. Yn union fel y gwnaeth Gair Duw ddod i Dafydd drwy Nathan, i Esther drwy'i hewythr Mordecai, ac i Timotheus drwy Paul, gall anogaeth ac esiampl eraill effeithio'n fawr arnom.
Fe allwn i rannu tudalennau o wirioneddau a enillwyd yn eistedd wrth draed mentoriaid; yn wir, mae fy nghyfnodolion yn llawn o'r math hwn o ddoethineb, ond byddaf yn cyfyngu fy hun i un.
Rai blynyddoedd yn ôl cefais y pleser o gwrdd yn gyson gyda mentor y mae ei mewnwelediadau wedi profi i fod mor ymarferol. Pan ofynnais i iddi am fy nhuedd i gamu i mewn i arwain, dim ond i obeithio wedyn y gallwn i gamu nôl, esboniodd mae beth sy'n gallu dechrau fel ffydd hyderus yn gallu dirywio'n sydyn iawn i hunan-amheuaeth. Mae'r ysbryd yn llamu a chynyddu tra bo'r enaid yn crynu a phoeri, "Beth oeddet ti'n feddwl? Pam wnest ti gymryd y fath risg?! Er mwyn popeth, cama nôl!"
I esbonio, rhoddodd gadair ynghanol yr ystafell a safodd arni i gynrychioli derbyn cyfle newydd i arwain. Anogodd y dylwn i, pan mae'r Arglwydd yn fy ngwadd i "gamu 'mlaen" y dylwn i afael yn dynn yn yr hyder i sefyll mewn ffydd a chymryd y farn o'r sefyllfa newydd. Yna, os yw'r Arglwydd yn gorchymyn felly, imi fynnu bod fy enaid yn camu 'mlaen llaw yn llaw â'm ysbryd llawn ffydd, yn lle caniatáu i'm henaid fynnu dianc ar frys.
Dw i'n dal i weithredu ar y cyngor hwn. Ar sawl achlysur dw i wedi mynd ar ben fy hun, a gosod cadair ynghanol ystafell sy'n cynrychioli cyfle newydd i arwain a sefyll arni. O'r man hwnnw, synfyfyriais ar ble roedd Duw wedi fy ngalw i iddo. Wrth imi barhau i sefyll ar y gadair, gweddïais dros eraill a fy hun. Yna, gorchmynnais i'm henaid i sefyll yn gadarn yn y cyfle newydd mewn hedd. Dwedais iawn wrth yr Arglwydd a nai fy amheuon. Mae'r cyngor hwnnw wedi dod yn ddoethineb gadarn ar gyfer fy mywyd, llais yr Arglwydd trwy fentor dibynadwy.
Am y Cynllun hwn
Mae Sgyrsiau gyda Duw yn drochiant llawen i mewn i fywyd agosach o weddi, gan bwysleisio ffyrdd mwy ymarferol o glywed llais Duw. Mae Duw eisiau i ni fwynhau sgwrs ddi-ddiwedd ag e drwy ein bywyd cyfan - sgwrs sy'n gwneud gwahaniaeth ym mhob cyfeiriad, perthnasoedd a phwrpas. Mae'r cynllun hwn wedi'i lenwi â storïau tryloyw a phersonol am gyrraedd calon Duw. Mae e'n ein caru ni!
More