Tra oedd Pedr yn synfyfyrio ynghylch y weledigaeth, dywedodd yr Ysbryd, “Y mae yma dri dyn yn chwilio amdanat. Cod, dos i lawr, a dos gyda hwy heb amau dim, oherwydd myfi sydd wedi eu hanfon.” Aeth Pedr i lawr at y dynion, ac meddai, “Dyma fi, y dyn yr ydych yn chwilio amdano. Pam y daethoch yma?” Meddent hwythau, “Y canwriad Cornelius, gŵr cyfiawn sy'n ofni Duw ac sydd â gair da iddo gan holl genedl yr Iddewon, a rybuddiwyd gan angel sanctaidd i anfon amdanat i'w dŷ, ac i glywed y pethau sydd gennyt i'w dweud.” Felly gwahoddodd hwy i mewn a rhoi llety iddynt. Trannoeth, cododd ac aeth ymaith gyda hwy, ac aeth rhai o'r credinwyr oedd yn Jopa gydag ef.
Darllen Actau 10
Gwranda ar Actau 10
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Actau 10:19-23
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos