Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y TreialSampl

Joy for the Journey: Finding Hope in the Midst of Trial

DYDD 7 O 7

Wrth i ni gau ein taith ar lawenydd, dw i eisiau i ti feddwl pwy sy'n dy arwain ar dy daith i lawenydd. Ai ti yw e? Ai un sy’n annwyl Iti? A yw'n ffrind?

Neu ai Duw yw e?

Mae angen i Dduw fod yn gwmpawd i ni a’n harwain trwy’r treialon dŷn ni’n eu hwynebu, neu efallai y byddwn ni’n colli allan ar dro pwysig, yn taro craig, ac yn syrthio ymhellach ac ymhellach oddi wrth ei lawenydd, ei gynllun, a’i bwrpas.

Mae cwmpawd yn arf hanfodol ar gyfer gwersylla, heicio, neu weithgareddau lle rwyt ti'n treulio llawer o amser yn yr awyr agored, yn enwedig ar dy ben dy hun. Mae'r offeryn hwn yn parhau'n gadarn drwy bob tywydd gwael ac mae'n hawdd ei gario. Mae'r cwmpawd yn declyn diogelwch dibynadwy i bobl o bob oed.

Diben unigol cwmpawd yw dweud wrthot ti i ba gyfeiriad rwyt ti bob amser yn mynd, sy'n dy atal rhag mynd ar goll. Yn nodweddiadol, mae cerddwyr a heicwyr yn dibynnu ar gwmpawdau i'w arwain I ben eu taith oherwydd gall un tro anghywir fod yn drychinebus - hyd yn oed yn fygythiad i fywyd. Ond trwy ddefnyddio cwmpawd i leoli'r gogledd go iawn, mae dod o hyd I dy ffordd yn gywir yn syml.

Mae pob un ohonom wedi cael cwmpawd i arwain a chyfeirio ni ar ein taith. Mae gen ti un, ac mae gan dy anwyliaid rai eu hunain.

Mae'r cwmpawd yn gyson . . . nid yw byth yn newid; mae bob amser yn gywir, bob amser yn ddibynadwy, bob amser yn gyson, ac mae bob amser yn ein cyfeirio at ein cyrchfan.

Felly y mae ein Tad nefol. Mae'n ffyddlon, ac fe yw ein GWIR GOGLEDD.

Pan fyddwn yn dewis trystio yn ein Cwmpawd, bydd e bob amser yn ein harwain at le o LAWENYCC… waeth beth yw ein sefyllfa. Gallwn ddod o hyd i Lawenydd ar y Daith.

Dydy e ddim yn fater o wisgo gwên ffug ac esgus bod yn hapus pan mai’r realiti yw dy fod yn brifo. Dydy e ddim byd I wneud ag esgus nad wyt ti'n dioddef, yn brwydro ag amheuon, neu'n methu â gweld sut y gall Duw ddod ag unrhyw beth da allan o'r sefyllfa.

Mae'n fater o ddewis dod o hyd i'w lawenydd yng nghanol y tor calon. Mae'n fater o ymostwng i gynllun Duw, yn lle ein cynllun ein hunain, a sylweddoli nad ein ffyrdd ni yw ei ffyrdd e … ond mae ei ffyrdd e, yn y diwedd, bob amser yn ddaoherwydd ei fod yn dda .

Heddiw, beth bynnag all fod yn dy atal rhag dod o hyd i lawenydd ar y Daith hon, sgwennu e i lawr. Dw i am iti ei roi i Dduw. Dw i am i ti gael ffydd a thrystio yn Nuw â'r hyn sy'n pwyso arnat ti a’th wneud yn flinedig.

Mae ein hagwedd yn ystod treialon yn bwysig. Pan fydd y frwydr yn parhau, gallwn fynd yn flinedig a theimlo'n flinedig, wedi torri a digalonni.

Ond pan gofiwn mai llawenydd yw ein harf cudd, mae’n rhoi nerth inni i’n helpu i ddyfalbarhau pan fyddwn yn meddwl na allwn fynd ymhellach. Wrth gofio mai eiddo’r Arglwydd yw’r frwydr hon, gallwn adnabod ei lawenydd a chael y nerth i ddyfalbarhau.

Os gweli di fod angen mwy o anogaeth arnat ti ar y daith hon, dw i’n dy annog i chwilio Finding Hope, grŵp cymorth ar gyfer y rhai sydd ag anwyliaid mewn caethiwed.

Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Joy for the Journey: Finding Hope in the Midst of Trial

Efallai nad ydyn ni bob amser yn ei weld na'i deimlo, ond mae Duw bob amser gyda ni... hyd yn oed pan fyddwn yn mynd trwy bethau anodd. Yn y cynllun hwn, mae Amy LaRue, Cydlynydd Finding Hope, yn sgwennu o'r galon am frwydr ei theulu ei hun â chaethiwed a sut y torrodd llawenydd Duw drwodd yn eu cyfnod tywyllaf.

More

Hoffem ddiolch i Hope is Alive Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.hopeisalive.net/