Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y TreialSampl

Joy for the Journey: Finding Hope in the Midst of Trial

DYDD 1 O 7

Yn 2015, roeddwn wedi torri’n llwyr ac yn ofnus ynghylch sut fyddai’r dyfodol i’m teulu. Doeddwn i ddim yn gwybod dim am ddibyniaeth neu os oedd fy ngŵr yn alcoholig mewn gwirionedd. Y cyfan o’n i'n ei wybod oedd fy mod i'n ddigalon, ac o’n i wir yn credu fy mod i'n sownd yn byw'r diflastod hwn ddydd a dydd am weddill fy oes.

Mae Duw wedi mynd â fi ar daith i lawenydd trwy drystio ynddo e a chaniatáu iddo fod yn arweinydd i mi. Heddiw, dw i'n hapus, yn obeithiol, yn gryf ac yn llawen.

Efallai bod rhai ohonoch chi'n pendroni, Sut galla' i gael llawenydd pan fydd fy ngŵr yn yfed drwy'r dydd? Sut gallaf gael llawenydd pan fydd fy merch yn y carchar? Sut gallaf gael llawenydd pan fydd fy mab yn ddigartref ar y strydoedd?

Efallai bod y daith hon rwyt ti arni yn teimlo fel taith ffordd wedi mynd o chwith, a nawr rwyt ti'n pendroni, Ble mae Duw? Pam ydw i ar y daith hon? Sut alla i gael unrhyw lawenydd ar hyn o bryd? Dw i wedi blino ar guddio ac yn smalio bod popeth yn iawn.

Dysgais dros y blynyddoedd fod Duw yma ar y daith hon - yn cerdded ochr yn ochr â ni - a gallwn ddod o hyd i lawenydd wrth osod ein GOBAITH yn Iesu a chael ffydd ynddo.

Fy enw i yw Amy LaRue. Dros y dyddiau nesaf, dw i'n mynd i rannu ychydig o fy stori a sut wnes i ddod o hyd i'r gobaith cryf sydd gen i yn Iesu. Dw i'n gobeithio y bydd I di'n dod o hyd i obaith yn fy stori ac yn darganfod y gelli dithau hefyd gael llawenydd yn y daith.

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Joy for the Journey: Finding Hope in the Midst of Trial

Efallai nad ydyn ni bob amser yn ei weld na'i deimlo, ond mae Duw bob amser gyda ni... hyd yn oed pan fyddwn yn mynd trwy bethau anodd. Yn y cynllun hwn, mae Amy LaRue, Cydlynydd Finding Hope, yn sgwennu o'r galon am frwydr ei theulu ei hun â chaethiwed a sut y torrodd llawenydd Duw drwodd yn eu cyfnod tywyllaf.

More

Hoffem ddiolch i Hope is Alive Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.hopeisalive.net/