Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y TreialSampl
Pan oedd fy mhlant yn llawer iau, wnes Ii rannu llun ar gyfryngau cymdeithasol o'n teulu yn cerdded i lawr llwybr parc. Cafodd 117 o hoffiadau a sylwadau safonol fel:
- Llun gwych o deulu hyfryd.
- Dylai'r llun hwn fod mewn hysbyseb yn rhywle
- Caru hwn!
Ond roedd y llun yn dangos teulu yn “ffugio” bod popeth yn iawn. Pe baet wedi gallu edrych arno gyda fy llygaid, byddet wedi gweld:
- Tad a allai fod yn feddw neu beidio.
- Plant hyfryd, diniwed sydd heb unrhyw syniad beth sy'n digwydd, sy'n haeddu rhieni iach ond heb dad sydd Yna go iawn.
- Mam sy'n brifo mewn poen a dicter, sy'n ffugio ei gwên, yn ffugio teulu perffaith, yn ffugio bod yn hapus. Mam sy'n meddwl tybed a fydd bywyd byth yn gwella, a all prin edrych ar ei gŵr, sydd wir eisiau i fywyd fod yn well ond nad yw'n siŵr y bydd byth.
- Teulu mewn storm ofnadwy a elwir yn gaethiwed.
Yn ddiweddar, wnes I rannu llun o'n teulu fel dŷn ni'n edrych nawr. Cafodd 150 o hoffiadau a sylwadau fel:
- Teulu hardd
- Caru'r teulu hwn yn fawr iawn.
- Llun gwych o deulu ciwt iawn
- Llun anhygoel
Y tro hwn, mae'r llun yn dangos teulu sydd wedi bod - a bydd yn parhau i fod - ar daith o adferiad. Dw i’n edrych arno a gweld:
- Tad sy'n bresennol ym mywydau ei blant, yn gweithio ar raglen adferiad, ac a fu’n sgwrsio â’i noddwr ychydig funudau cyn tynnu'r llun hwn.
- Plant hardd y gweld eu rhieni sydd bellach yn iach yn mynd ati i wella trwy gyfarfodydd, cwnsela a nawdd.
- Mam gref nad oes yn rhaid iddi ei ffugio ond a all fod yn onest am ei theimladau.
- Gŵr a gwraig sydd wedi gweithio'n galed i feithrin ymddiriedaeth ac sydd â phriodas gryfach heddiw na chyn i gaethiwed gymryd drosodd.
- Teulu sy'n caru ei gilydd ac yn cefnogi ei gilydd, sy'n fodlon dweud nad oes ganddyn nhw'r cyfan gyda'i gilydd oherwydd eu bod ar daith adferiad
- Teulu sydd wedi cael heddwch, gobaith, a llawenydd.
Efallai bod dy deulu fel y cyntaf… yn ysu am gael heddwch, gobaith a llawenydd. Neu efallai bod dy deulu fel yr ail un… teulu sydd wedi dod o hyd i heddwch, gobaith, a llawenydd ac sy’n parhau ar eich taith.
Waeth pa “lun” rwyt ti’n uniaethu fwyaf ag e, mae Duw yn bresennol yn y ddau.
Mae Duw yno yn y pyllau a'r copaon. Mae Duw yno yn y buddugoliaethau a'r trasiedïau. Roedd Duw gyda fy nheulu pan oeddem yn ei ffugio, prin yn glynu wrth fywyd, ac mae Duw yno gyda ni nawr wrth i ni gyhoeddi ei ras trwy ein hiechyd a'n bregusrwydd.
Os yw Duw yno ym MHOB sefyllfa, gallwn ni wir gofleidio LLAWENYCC ar y daith oherwydd bod ein llawenydd ni gydag e.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Efallai nad ydyn ni bob amser yn ei weld na'i deimlo, ond mae Duw bob amser gyda ni... hyd yn oed pan fyddwn yn mynd trwy bethau anodd. Yn y cynllun hwn, mae Amy LaRue, Cydlynydd Finding Hope, yn sgwennu o'r galon am frwydr ei theulu ei hun â chaethiwed a sut y torrodd llawenydd Duw drwodd yn eu cyfnod tywyllaf.
More