Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y TreialSampl

Joy for the Journey: Finding Hope in the Midst of Trial

DYDD 4 O 7

Yn y bywyd hwn, byddwn yn cael treialon. Mae Iesu hyd yn oed yn dweud wrth ei ddisgyblion hyn yn Ioan 16:33, ac mae Iago yn sgwennu, “Frodyr a chwiorydd, pan fyddwch chi’n wynebu pob math o dreialon, ystyriwch hynny’n rheswm i fod yn llawen. Achos pan mae’ch ffydd chi’n cael ei brofi mae hynny’n meithrin y gallu i ddal ati a pheidio rhoi’r gorau iddi. Ac mae dal ati drwy’r cwbl yn eich gwneud chi’n gryf ac aeddfed – yn barod ar gyfer unrhyw beth!”

Llawenydd. Sut gallaf gael llawenydd pan fydd fy mab neu ferch ar y strydoedd? Sut gallaf gael llawenydd pan ddaw fy ngŵr adref bob nos yn feddw? Sut gallaf gael llawenydd pan nad yw fy anwylyd eisiau adferiad? Sut gallaf gael llawenydd pan fydd fy mrawd yn y carchar?

Mae Duw yn gwybod ein treialon cyn inni gerdded trwyddyn nhw, ac mae'n gwybod yr union foment y mae’n nhw’n ein taro. Nid yw unrhyw brawf dŷn ei ddioddef yn syndod iddo.

Efallai dydyn ni ddim yn gwybod pam na sut, ond mae Duw yn gwybod hynny. Mae'n gwybod PAM ein bod yn mynd trwy hyn, ac mae ganddo gynllun a phwrpas, ond ni sydd i benderfynu sut y byddwn yn ymateb i'r treialon hyn.

Mae'n debygol na fydd derbyn a chroesawu treialon yn arwain at imiwnedd arbennig iddyn nhw. Byddwn yn eu profit gymaint â phawb arall. Yng nghanol y treial, gallwn gael persbectif gwahanol ac ymateb yn well i amgylchiadau sy'n ymddangos fel pe baen nhw’n dwyn ein hanadl a'n gobeithion i ffwrdd.

Gallwn hyd yn oed brofi llawenydd yn ystod ein hanawsterau.

Gallwn ddewis eistedd mewn treial a cheisio ei “drwsio” oherwydd ein bod yn credu ein bod yn gwybod yn well, ond nid yw hynny ond yn ein harwain i fynd yn flin, yn ddiflas ac yn sâl. Y dewis gorau yw rhoi popeth i Dduw a ynddo trwy'r treialon.

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Joy for the Journey: Finding Hope in the Midst of Trial

Efallai nad ydyn ni bob amser yn ei weld na'i deimlo, ond mae Duw bob amser gyda ni... hyd yn oed pan fyddwn yn mynd trwy bethau anodd. Yn y cynllun hwn, mae Amy LaRue, Cydlynydd Finding Hope, yn sgwennu o'r galon am frwydr ei theulu ei hun â chaethiwed a sut y torrodd llawenydd Duw drwodd yn eu cyfnod tywyllaf.

More

Hoffem ddiolch i Hope is Alive Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.hopeisalive.net/