Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y TreialSampl

Joy for the Journey: Finding Hope in the Midst of Trial

DYDD 3 O 7

Bron unrhyw bryd dw i'n teithio dw i'n dod ar draws rhai dargyfeiriadau a thwmpathau ar y ffordd. Mae hediadau’n cael eu gohirio, nid yw’r ceir hurio yn barod, mae’r tywydd yn gyfnewidiol, mae’r gwaith adeiladu yn arafu traffig, pob golau ffordd yn troi’n goch…mae’r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen. Efallai y byddaf i’n teimlo'n bryderus, rhwystredig neu'n flinedig, ond dw i’n benderfynol o beidio gadael i'r twmpathau fy rhwystro rhag mynd i ble dw i eisiau mynd.

Mae ein taith gyda'n hanwyliaid yr un peth. Er na fedrwn ni ragweld pa wyriadau all fod o'n blaenau, dŷn ni’n GALLU penderfynu sut dŷn ni’n ymateb.

Does gynnon ni ddim rheolaeth drops daith ein hanwyliaid, waeth pa mor galed dŷn ni’n trio, waeth faint o ymchwil dŷn ni’n ei wneud, waeth faint o amser y byddwn yn pledio â nhw, waeth bynnag sawl gwaith dŷn ni’n galw arnyn nhw i edifarhau. Eu taith eu hunain yw eu taith.

Dw in dweud hyn o brofiad. Wnes i drio cael rheolaeth ar daith fy ngŵr, ond wnaeth hynny ond fy ngwneud yn fwy a mwy blin a mwy a mwy milain. Fe wnes i bledio, erfyn, bygwth, gweiddi, rhoi'r ymateb tawel... waeth beth ddwedi di, ro’n i wedi’i drio. Ond yn y pen draw, ro’n i ei eisiau yn fwy nag oedd fy ngŵr ei eisiau, wnaeth fy arwain i lawr llwybrau o ddrwgdeimlad, dicter, pryder, ofn, chwerwder, rhwystredigaeth ac anobaith.

Ro’n i eisiau fy nheulu yn ôl. Ro’n eisiau fy ngŵr yn ôl. Ro’n i eisiau heddwch. Ro’n i eisiau gobeithio.

`

Ro’n i eisiau llawenydd.

Ond wnes i ddysgu mai'r unig daith mae gen i reolaeth drosti yw fy un i. A dw i'n deilwng i ddod o hyd i heddwch, gobaith, llawenydd, waeth sut olwg fydd ar daith unrhyw un arall - gan gynnwys taith fy ngŵr. Gallaf ddewis gofalu amdanaf fy hun. Gallaf ddewis i aros ar fy llwybr o ddewis.

Rhaid imi gofio hefyd fod Duw gyda mi ymhob dargyfeiriad a thwmpath ar y ffordd. Mae yn gwybod yn barod am y gwyriadau hyn dw i’n eu hwynebu. Mae angen i mi gofio bod y rhain yn rhan o'i gynllun e, yn rhan o'r darlun mwy, ac yn rhan o'i bwrpas ar fy nghyfer i.

Dw i’n gallu gwneud y dewis i drystio yn Nuw ac i drystio mewn llawenydd.

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Joy for the Journey: Finding Hope in the Midst of Trial

Efallai nad ydyn ni bob amser yn ei weld na'i deimlo, ond mae Duw bob amser gyda ni... hyd yn oed pan fyddwn yn mynd trwy bethau anodd. Yn y cynllun hwn, mae Amy LaRue, Cydlynydd Finding Hope, yn sgwennu o'r galon am frwydr ei theulu ei hun â chaethiwed a sut y torrodd llawenydd Duw drwodd yn eu cyfnod tywyllaf.

More

Hoffem ddiolch i Hope is Alive Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.hopeisalive.net/