Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y TreialSampl

Joy for the Journey: Finding Hope in the Midst of Trial

DYDD 6 O 7

Mae'r sefydliad dw i'n gweithio iddo yn cynnal digwyddiad codi arian o 5K bob blwyddyn, a'r llynedd, fy nod oedd rhedeg yr holl ffordd. Heb fod yn redwr fel arfer, ro’n i'n gwybod bod angen i mi ddechrau hyfforddi'n gynnar i ennill dygnwch i redeg y ras gyfan. Mae rhedwr yn ennill stamina trwy ddioddef trwy filltir arall pan fyddan nhw am roi'r gorau iddi (neu yn fy achos i, rhedeg munud ychwanegol ... ac yna munud ychwanegol arall).

Yn yr un modd, mae treialon yn cryfhau ein cyhyrau ysbrydol, ac mae profi ein ffydd yn cynhyrchu dyfalbarhad. Mae pob profiad yn gwneud ni ei drystio a dyfnach. Dim ond trwy oresgyn anhawster y daw twf wrth inni ddyfalbarhau drwyddo.

Meddylia yn ôl am dreial mewn bywyd nad oeddet ti'n meddwl oedd byth yn mynd i wella. Sut ddefnyddiodd Duw y treial hwnnw? Sut wnaeth e dy gael trwy'r treial? Beth wnes di ddysgu wrth i ti fynd drwy'r treial?

Mae treialon yn anodd ac yn boenus, ond mae Duw yn eu defnyddio serch hynny. Mae gan dreialon y potensial i gynhyrchu rhywbeth da ynom ni, ac am y rheswm hwn, mae’n nhw’n gyfle i fynegi llawenydd.

Er enghraifft, dyma rai o'r pethau da a llawen y daeth Duw â mi trwy brawf caethiwed fy ngŵr:

  • Priodas gryfach.
  • Dealltwriaeth o ffiniau a'u gweithrediad.
  • Dysgu beth mae hunanofal yn ei olygu ac yna ei wneud.
  • Galluogi fy hun i deimlo fy nheimladau a gwybod sut i weithio drwyddyn nhw’n iach.

Dydy llawenydd ddim wedi ei wreiddio yn amgylchiadau bywyd; hyder tawel Duw mawr sy’n gweithio er daioni hyd yn oed os na allwn weld y ffordd ar unwaith, a dim ond pan edrychwn yn ôl y gallwn ddod o hyd i lawenydd.

Wrth iti ddarllen yr ysgrythurau heddiw, cofia bod y llawenydd hwnnw…

  • yn dod oddi wrth Dduw ei hun (Galatiaid 5:22-23)
  • yn gwybod bod pwrpas gan Duw inni trwy'r treialon. (Jeremeia 29:11)
  • yn ei bresenoldeb e (Salm 16:11)
  • yw ein cryfder cudd (Nehemeia 8:10)
  • p> Ysgrifennodd Kay Warren unwaith, “Llawenydd yw’r sicrwydd sefydlog mai Duw sy’n rheoli holl fanylion fy mywyd, yr hyder tawel y bydd popeth yn iawn yn y pen draw, a’r dewis penderfynol i ganmol Duw ym mhob sefyllfa.”

    Byddwn yn cael treialon a gorthrymderau, ond mae gen ti a minnau ddewis yn y treialon hynny. Gallwn ddod o hyd i lawenydd yn y treialon trwy ddysgu, tyfu, a thrystio yn Nuw. . . neu gallwn wrthsefyll ac ymladd y treialon - gan ein harwain i lawr ffordd sy'n galed, arw, creigiog, ac annymunol.

    Pa un wyt ti'n ei ddewis?

  • Diwrnod 5Diwrnod 7

    Am y Cynllun hwn

    Joy for the Journey: Finding Hope in the Midst of Trial

    Efallai nad ydyn ni bob amser yn ei weld na'i deimlo, ond mae Duw bob amser gyda ni... hyd yn oed pan fyddwn yn mynd trwy bethau anodd. Yn y cynllun hwn, mae Amy LaRue, Cydlynydd Finding Hope, yn sgwennu o'r galon am frwydr ei theulu ei hun â chaethiwed a sut y torrodd llawenydd Duw drwodd yn eu cyfnod tywyllaf.

    More

    Hoffem ddiolch i Hope is Alive Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.hopeisalive.net/