Addoli DuwSampl
Dawn Ysbrydol ac Addoliad
Pan ddefnyddir doniau proffwydoliaeth a thafodau mewn eglwys, maen nhw’n arwain at dröedigaeth. Pan fyddai Iesu'n gwneud gwyrthiau, byddai'n dweud, “Dos i ddangos dy hun i’r offeiriad. Ac fel y dwedodd Moses, dos ag offrwm gyda ti, yn dystiolaeth i’r bobl dy fod ti wedi cael dy iacháu.” Nid oedd angen gor-hawlio ac esgus.
Bydd gwir roddion yr Ysbryd yn golygu y byddai dim amheuaeth o’r gwyrthiau a byddai dim amheuaeth o’i iachâd - a phobl yn cael tröedigaeth.
Ond hyd yn oed pan fo dim Amheuaeth o’r rhoddion, dydy nhw ddim gan pob Cristion. Mae gennym ni i gyd ddoniau gwahanol, ac mae pob rhodd y mae Duw wedi’u rhoi i ni yr un mor bwysig yn y corff. Yn ein corff corfforol, os oes gennym fysedd traed sy’n boenus, byddwn yn ddiflas drwy'r dydd. Gall y rhan leiaf o'r corff effeithio ar weddill y corff.
Pan fyddwn yn cyrraedd y nefoedd, fydd y gydnabyddiaeth yno ddim yn cyfateb i gydnabyddiaeth ddaearol. Yn y nef y mae bys bach y droed yn cael ei wobrwyo gymaint a'r llygad os bu yn ffyddlon yn y gorchwyl hwnnw.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae pob darlleniad dyddiol yn rhoi cipolwg ar sut i addoli Duw ym mhob agwedd ar fywyd a bydd yn ysbrydoli darllenwyr i ganolbwyntio eu calon yn llwyr ar eu perthynas â Christ. Mae’r defosiynol hwn yn seiliedig ar lyfr Rt Kendall Worshipping God. (R. T. Kendall oedd gweinidog Capel Westminster yn Llundain, Lloegr, am bum mlynedd ar hugain.)
More