Addoli DuwSampl
Addoli yn Ffordd o Fyw
Pan oeddwn mewn yn chwarae obo mewn cerddorfa symffoni, dysgais pan fydd yr arweinydd yn creu darn, ei fod am i bob aelod ei ymarfer yn ystod yr wythnos. Felly roedd yn rhaid i mi fynd â'r sgôr adref gyda mi. Ac roedd ansawdd perfformiodd y gerddorfa yn yr ymarfer nesaf yn dibynnu ar sut roedd pob person yn trin ei ran ei hun.
Mae yr un peth yn wir gydag addoliad. Os dŷn ni’n rhagrithwyr, os yw ein proffesiwn o ffydd yn brin o realiti, pan fyddwn yn dod i'r eglwys i ganu ac addoli, byddwn allan o diwn a fyddwn ni ddim yn creu cerddoriaeth sy’n plesio Duw.
Mae’r hyn ydyn ni’n unigol, bedair awr ar hugain y dydd, yn bwysicach na’r hyn sy’n digwydd yn yr eglwys unwaith yr wythnos. Mae cyfrinach addoliad derbyniol yn gorwedd yn y modd yr ydym gartref neu yn y gwaith, a phan fyddwn ar ein pennau ein hunain a neb yn gwybod beth dŷn ni’n ei wneud. Mae'n adlewyrchiad o’n ffordd o fyw yn gyfan gwbl.
Y ffordd dŷn ni’n amddiffyn ein hunain rhag bod yn rhagrithiwr chwe diwrnod yr wythnos yw trwy gymhwyso Gair Duw i’n bywydau. Ac er mwyn gwneud hyn, rhaid inni wahardd pob chwerwder o'n bywydau. Rhaid inni geisio cael ein llenwi â chariad a maddeuant llwyr a derbyn ein gilydd. Rhaid inni fyw bywydau aberthol, gan geisio bob eiliad yn unig i garu a gwasanaethu Duw mewn sancteiddrwydd, gostyngeiddrwydd, a gweddi.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae pob darlleniad dyddiol yn rhoi cipolwg ar sut i addoli Duw ym mhob agwedd ar fywyd a bydd yn ysbrydoli darllenwyr i ganolbwyntio eu calon yn llwyr ar eu perthynas â Christ. Mae’r defosiynol hwn yn seiliedig ar lyfr Rt Kendall Worshipping God. (R. T. Kendall oedd gweinidog Capel Westminster yn Llundain, Lloegr, am bum mlynedd ar hugain.)
More