Addoli DuwSampl
Y Llawenydd o Wneud Dim Byd
Mae yna lefel llawer dyfnach o addoliad, un lle na allwn fynegi ein hunain ar lafar nac yn ddieiriau - lle dŷn ni’n hollol oddefol. Mae'r addoliad dyfnaf a dwysaf yn digwydd pan na allwn wneud dim ond rhyfeddu, pan fyddwn yn cael ein gwneud yn ddiymadferth ac yn fud gan ryfeddod a diolchgarwch, pan fyddwn yn eistedd yn ôl a gwylio Duw yn gweithio.
Wyt ti erioed wedi cael dy roi mewn sefyllfa lle nad oedd unrhyw beth y gallet ti ei ddweud na'i wneud? Gwnaeth rhywun rywbeth hynod wych, a doeddech ti ddim yn gallu gwneud dim byd ond teimlo'n ddiolchgar? Efallai i'r person fynd i ffwrdd, a'th fod di'n dymuno pe bae ti'n dod o hyd iddo e neu hi i ddweud cymaint oeddet ti'n gwerthfawrogi'r hyn a wnaed. Ac efallai dy fod di'n teimlo'n rhwystredig, a bod rhywfaint o'th lawenydd wedi'i gymryd i ffwrdd oherwydd nad oedd modd mynegi dy ddiolch. Ar y lefel naturiol dŷn ni bob amser yn teimlo bod yn rhaid i ni wneud rhywbeth.
Ddwedes i ddim ein bod yn teimlo dim byd, ond ein bod yn gwneud dim. Dyma, meddai Eseia, yw’r ffordd orau o fyw - y ffordd mae Duw eisiau inni fyw. Mae'n cynrychioli'r llawenydd mwyaf sydd. Ac er ein bod yn cael ein gwneud yn ddiymadferth - fel pe baem yn sefyll yno gyda'n ceg yn llydan agored - mae Duw yn gweld sut dŷn ni'n teimlo ac yn gwybod ein bod ni'n ddiolchgar.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae pob darlleniad dyddiol yn rhoi cipolwg ar sut i addoli Duw ym mhob agwedd ar fywyd a bydd yn ysbrydoli darllenwyr i ganolbwyntio eu calon yn llwyr ar eu perthynas â Christ. Mae’r defosiynol hwn yn seiliedig ar lyfr Rt Kendall Worshipping God. (R. T. Kendall oedd gweinidog Capel Westminster yn Llundain, Lloegr, am bum mlynedd ar hugain.)
More