Addoli DuwSampl
![Worshipping God](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F3911%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Gweddi llawn ysbryd
Mae’r gweinidog byd-enwog, Arthur Blessitt, yn sôn am eglwys a benderfynodd gyfarfod ar brynhawn Sadwrn i weddïo am adfywiad. Daeth tua deugain o ddynion, eistedd mewn cylch mawr, a dechrau gweddïo.
Ond doedd dim unrhyw synnwyr o bresenoldeb Duw.
Ar y foment honno digwyddodd Arthur edrych allan o'r ffenest, a sylwodd ar fwyty ar draws y stryd. Teimlodd ysgogiad i godi a mynd draw yno, felly gwnaeth.
Safodd y tu mewn i'r drws a dweud, "A oes unrhyw un yma eisiau cael ei achub?"
Dwedodd gweinyddes, "Dw i’n gwneud."
Felly wnaeth e egluro’r efengyl iddi, a'i harwain at yr Arglwydd.
Yna gofynnodd a oedd unrhyw un o'r bobl o'r eglwys ar draws y stryd erioed wedi siarad â hi am Iesu Grist neu wedi ei gwahodd i ddod i'r eglwys.
Dywedodd hi, "Na, dim un."
Eto yr un bobl oedd yn gweddïo am adfywiad.
Paid â chyfyngu ar yr Ysbryd trwy dybio fod dy batrwm addoli cyfarwydd, cyfforddus yw'r patrwm y mae e ei eisiau. Roedd rhaid i'r deugain dyn hynny gael eu rhyddhau o'u felan. Mae addoliad a gweddi o dan ysgogiad yr Ysbryd yn golygu dilyn yr Ysbryd.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
![Worshipping God](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F3911%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Mae pob darlleniad dyddiol yn rhoi cipolwg ar sut i addoli Duw ym mhob agwedd ar fywyd a bydd yn ysbrydoli darllenwyr i ganolbwyntio eu calon yn llwyr ar eu perthynas â Christ. Mae’r defosiynol hwn yn seiliedig ar lyfr Rt Kendall Worshipping God. (R. T. Kendall oedd gweinidog Capel Westminster yn Llundain, Lloegr, am bum mlynedd ar hugain.)
More