Addoli DuwSampl
Sut i Gael Addoliad Byw
Rhaid inni adael i Dduw fod ei Hun ynom. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid inni adael iddo fod ei Hun mewn eraill hefyd. Dylen ni ddim barnu arddull addoliad rhywun arall.
Ond addoliad sy’n elitaidd neu’n cael ei ostwng i lefel adloniant poblogaidd, addoliad sy’n emosiynol neu’n esthetig yw addoliad mewn enw yn unig. Mae ganddo'r ffurf allanol heb y realiti. Yr hyn dŷn ni’n hiraethu amdano yw addoliad byw. Ond sut mae hyn yn digwydd?
Ddylai ein heglwysi ddim bod yn lleoedd lle mae’r anedifeiriol yn dod ar y Sul oherwydd eu bod nhw’n “hoffi’r addoliad.” Dylai ein heglwysi fod yn lleoedd y mae'r rhai nad ydyn nhw’n edifar deimlo'n anghyfforddus oherwydd yr Ysbryd sy'n bwysig ac sy'n dod gyntaf. Rhaid i'n hegwyddor reoli fod yn ufudd-dod i'r Ysbryd — waeth i pa gyfeiriad y mae e’n ein harwain.
Y mae Salm 37:4 yn wir i bob un ohonom, beth bynnag ydyn ni neu beth bynnag dŷn ni ei eisiau. Ond pan ymhyfrydwn yn yr Arglwydd, mae l rhai o'n dyheadau’n g wywo a chael eu disodli gan ddyheadau newydd. Felly dylid ddim rhagweled nod pendant ynghylch y ffurf y mae'n rhaid i'n haddoliad ei chymryd. Rhaid i ni yn gyntaf fod yn sicr ein bod yn ymhyfrydu yn yr Arglwydd ac yna gweld beth mae Duw yn ei wneud.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae pob darlleniad dyddiol yn rhoi cipolwg ar sut i addoli Duw ym mhob agwedd ar fywyd a bydd yn ysbrydoli darllenwyr i ganolbwyntio eu calon yn llwyr ar eu perthynas â Christ. Mae’r defosiynol hwn yn seiliedig ar lyfr Rt Kendall Worshipping God. (R. T. Kendall oedd gweinidog Capel Westminster yn Llundain, Lloegr, am bum mlynedd ar hugain.)
More