Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Addoli DuwSampl

Worshipping God

DYDD 4 O 6

Addoli â'r Bersonoliaeth Gyfan

Pan fyddwn ni'n siarad am ysgogiad yr Ysbryd, dŷn ni mewn rhyw ystyr, yn siarad am deimladau. Dw i'n cyfaddef bod hyn yn beryglus, oherwydd gall teimladau arwain pobl i wneud pethau rhyfedd.

Gall pobl or-gydwybodol, sy’n cael eu gyrru gan deimlad o euogrwydd, geisio gwrthbwyso cam ffôl trwy wneud rhywbeth y maen nhw’n meddwl sy’n ewyllys Duw. Efallai y bydd rhywun yn dychmygu ei fod yn teimlo ysgogiad yr Ysbryd pan mai'r cyfan y mae'n ei wneud yw gwneud ymdrech ddynol i wneud iawn am fethiant y gorffennol. Mae ysgogiad yr Ysbryd, wrth ufuddhau iddo, bob amser yn arwain i deimlad o heddwch aruthrol.

Mae’n hawdd meddwl mai’r unig ysgogiad sy’n bwysig yw disgleirdeb neu ddyfnder ymenyddol. Ond mae Duw eisiau cyfathrebu â ni nid yn unig ar lefel ddeallusol. Mae Duw eisiau cyfathrebu â'n holl fodolaeth - ein hemosiynau a'n synhwyrau yn ogystal â'n meddyliau.

Mae addoliad go iawn yn digwydd pan nad ydyn ni’n ofni mynegi’r hyn dŷn ni’n ei deimlo. Dylai addoliad ddod â ni at y pwynt lle gallwn fod yn onest. Does dim angen i ni byth atal yr hyn dŷn ni'n ei deimlo pan dŷn ni yng nghwmni Iesu. Fydd e byth yn digio ȃ ni am ein gonestrwydd. Nid yw'n golygu ein bod ni'n iawn, ond os ydyn ni'n bod yn onest, fe all ein helpu ni a dod â ni i weld lle dŷn ni'n anghywir ac i wynebu'r gwir.

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Worshipping God

Mae pob darlleniad dyddiol yn rhoi cipolwg ar sut i addoli Duw ym mhob agwedd ar fywyd a bydd yn ysbrydoli darllenwyr i ganolbwyntio eu calon yn llwyr ar eu perthynas â Christ. Mae’r defosiynol hwn yn seiliedig ar lyfr Rt ​​Kendall Worshipping God. (R. T. Kendall oedd gweinidog Capel Westminster yn Llundain, Lloegr, am bum mlynedd ar hugain.)

More

Hoffem ddiolch i R. T. Kendall a Charisma House am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://bit.ly/kendallkindle