Pob Calon HiraethusSampl
![Every Longing Heart](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F34159%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Goleuni'r Byd a'r Gwanwyn o Oddi uchod
Ar ôl deng mis o dawelwch gorfodol, o'r diwedd daliodd Sechareia ei fab hirddisgwyliedig yn ei freichiau. Yn awr, ac yntau’n gallu siarad â chlywed eto, cafodd ei synnu gan mai ei fab fyddai proffwyd y Goruchaf. Proffwydodd Sechareia fod genedigaeth Ioan, a genedigaeth Iesu, yn wawr ar ddiwrnod ysbrydol newydd.
I werthfawrogi'r golau, rhaid inni ddeall y tywyllwch blaenorol. Caeodd yr Hen Destament gyda'r addewid o oleuni newydd yn dod, yn y Testament Newydd.
Mae teitl Meseianaidd “Goleuni” yn anarferol. Mae'n dod o'r gair Groeg 'anatole' a gyfieithwyd fel "y dwyrain." Dyma’r un gair a ddefnyddir deirgwaith i ddisgrifio’r doethion a “ei seren yn y dwyrain.” Y seren yn y dwyrain oedd y golau a'u harweiniodd at y Goleuni, y Goleuni ei hun.
Tua deng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, dechreuodd Goleuni'r Byd ddysgu, iacháu, a chodi'r meirw yn fyw o amgylch Jwdea. Neges Crist i bechaduriaid oedd gosod eu ffydd a’u hymddiried ynddo. Parodd hyn i dywyllwch wylltio a ffoi. Nid oedd pawb yn caru'r golau, ac roedd yn well gan lawer aros yn y tywyllwch.
Ceisiodd Satan atal y Goleuni wrth y groes. Ond ddeuddydd yn ddiweddarach, ar godiad haul, daeth y gwragedd oedd wedi gwylio'r Arglwydd yn cael ei groeshoelio a'i gladdu i'w eneinio â pheraroglau, dim ond i ddeall bod math arall o godiad haul wedi digwydd. Roedd y Mab wedi cyfodi! Yr oedd marwolaeth a thywyllwch wedi eu gorchfygu, a Mab Duw wedi cyfodi o'r bedd. O'r preseb i'r bedd gwag, daeth y Gwanwyn â golau newydd.
Mae'r Nadolig yn dathlu dyfodiad y codiad haul cyntaf. Ymwelodd dydd a goleuni newydd â ni yn y gwely preseb isel hwnnw. Ond mae codiad haul yn y dyfodol ar ddod. Caeodd yr Hen Destament gyda'r addewid am godiad haul yn y dyfodol, a gwna'r Testament Newydd hefyd. Mae ym mhennod olaf y Beibl. Bydd y codiad haul hwn yn y dyfodol yn wahanol oherwydd bod tywyllwch wedi rhagflaenu pob codiad haul arall, ond mae hwn yn dod â golau tragwyddol.
Oherwydd bydd Iesu ei hun yn disodli'r haul yn y Jerwsalem newydd. Byddwn gydag ef am byth, a fe fydd ein ffynhonnell golau.
Yn awr dŷn ni’n aros am y Diwrnod hwnnw yn wanwyn allan.
Pan gafodd Crist ei eni, roedd yr ymatebion i’w ddyfodiad yn amrywio o addoliad a phryder, ac mae hynny’n dal yn wir heddiw. Ond i'r ffyddloniaid, y Brenin newydd-anedig hwn yw llawenydd pob calon hiraethus. Fe yw'r Rhoddwr, a fe yw'r Rhodd. Gobeithio mai fe yw hiraeth dy galon di ac y byddi di’n ei drysori mwy y tymor hwn.
Manteisio ar gael y Llyfr Lliwio Adfent AM DDIM sy'n cyd-fynd â'r cynllun hwn yma.
- Sut mae Goleuni yn taflu goleuni i'm bywyd a'm meddwl?
- Sut ddylwn i ymateb i'r hyn sy'n dod i'r golau?
- Sut mae addewid goleuni tragwyddol yn y Jerwsalem newydd yn dod â gobaith i mi heddiw?
Am y Cynllun hwn
![Every Longing Heart](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F34159%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Yn emyn Nadolig enwog Charles Wesley, “Come, Thou Long Expected Jesus,” canwn mai Iesu yw llawenydd pob calon hiraethus. Dros gyfnod yr Adfent hwn, darganfydda sut mae'r trefniant ddwyfol o ddigwyddiadau dynol, ac amrywiol ymatebion i'w ddyfodiad, yn amlygu hiraeth ein calonnau. O frenhinoedd a llywodraethwyr i fugeiliaid a wyryfon disgwylgar, mae dyfodiad Iesu yn datgelu’r hyn dŷn ni’n ei drysori. Dewch o hyd i lawenydd eich calon ynddo y Nadolig hwn.
More
Cynlluniau Tebyg
![Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44796%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist
![Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44485%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial
![Coda a Dos Ati](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F43961%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Coda a Dos Ati
![Ymarfer y Ffordd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F42239%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Ymarfer y Ffordd
![Hadau: Beth a Pham](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44130%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Hadau: Beth a Pham
![Dwyt ti Heb Orffen Eto](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40720%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Dwyt ti Heb Orffen Eto
![Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F43442%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd
![Rhoi iddo e dy Bryder](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F48882%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Rhoi iddo e dy Bryder
![P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40702%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw
![Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F50414%2F320x180.jpg&w=640&q=75)