Pob Calon HiraethusSampl
![Every Longing Heart](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F34159%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Angel Dychrynllyd ac Ymateb Mud
Allai Sachareias ddim credu ei glustiau pan fwriwyd y coelbren, a glanio arno. Fel offeiriad, roedd wedi gwneud miloedd o aberthau anifeiliaid, ond doedd e ddim erioed wedi cael yr anrhydedd o offrymu arogldarth yn y Lle Sanctaidd. Cymerodd Sachareias anadl ddofn wrth iddo gamu i mewn i'r siambr gysegredig.
Roedd y fflam fach a gariodd yn taflu cysgodion o amgylch yr ystafell. I'r dde iddo, gwelodd fwrdd y bara, ar y chwith iddo, y canhwyllbren aur, ac o'i flaen allor yr arogldarth. Goleuodd yr arogldarth peraidd wrth yr allor a phlygu ei ben i weddïo. Pan agorodd ei lygaid, gwelodd eallan o gornel ei lygad.
Yno’n sefyll yn y cysgodion roedd y bod mwyaf mawreddog a brawychus a welodd erioed. Yr angel Gabriel oedd e.
Er bod gweld Gabriel yn arswydus iddo, sicrhaodd yr angel Sachareias i beidio ag ofni a bod ganddo'r newyddion mwyaf syfrdanol. Byddai gweddïau Sachareias ac Elisabeth dros fab yn cael eu hateb yn fuan, a byddai’r plentyn hwn yn fawr yng ngolwg yr Arglwydd. Y plentyn hwn, weddiwyd gymaint amdano, fyddai rhagflaenydd y Meseia.
Yr unig broblem oedd bod Sachareias ac Elisabeth ymhell y tu hwnt i oedran cael plant. Felly gofynnodd Sachareias i Gabriel, “Sut alla i gredu’r fath beth?” Atebodd y negesydd angylaidd, “Gabriel ydw i. Fi ydy’r angel sy’n sefyll o flaen Duw i’w wasanaethu.” Mewn geiriau eraill, wyt ti ddim yn meddwl bod fy ngweld i yn ddigon i ti gredu, Sachareias?
Yn sicr, roedd Sachareias yn gwybod y gallai Duw ateb ei weddïau, ond i amddiffyn ei ddisgwyliadau, roedd wedi dod i'r casgliad na fyddai.
Oherwydd ei anghrediniaeth, gwnaeth Gabriel Sachareias yn fud. Nid oedd yn gallu clywed na siarad. Ond onid yw pob anghrediniaeth yn fud? Pan dŷn ni ddim yn credu’r hyn sydd wedi’i ddatguddio yng ngair Duw, dŷn ni hefyd yn arddangos mudandod ysbrydol.
Er bod Sachareias wedi ymateb mewn amheuaeth i ddechrau, roedd ei “gyfnod mud” wedi ei helpu i weld pethau’n glir. Pan ryddhawyd ei dafod o'r diwedd, gorlifodd ei wefusau â mawl. Gyda'i araith adferedig, defnyddiodd ei wefusau i fendithio Duw yn lle mynegi amheuaeth.
Am ddegawdau, roedd Sachareias ac Elisabeth yn meddwl bod Duw wedi ateb hiraeth eu calonnau â’r ateb ‘na,’ ond dim ond ‘ddim eto’ oedd ynddo.’ Daliwch ati i weddïo, daliwch ati i gredu, a daliwch ati i ufuddhau! Dydych chi byth yn gwybod beth mae Duw yn ei wneud â'ch gweddïau sydd eto i'w hateb.
- Ble ydw i ddim yn credu’r hyn mae Duw yn ei ddatguddio yn ei Air imi?
- Pa geisiadau gweddi ydw i’n cael fy nhemtio i roi'r gorau iddyn nhw?
- Sut ydw i’n gallu dilyn esiampl (amherffaith) Sachareias ac Elisabeth i ddal ati i gredu pan fyddaf yn cael fy nhemtio i roi’r gorau iddi?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
![Every Longing Heart](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F34159%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Yn emyn Nadolig enwog Charles Wesley, “Come, Thou Long Expected Jesus,” canwn mai Iesu yw llawenydd pob calon hiraethus. Dros gyfnod yr Adfent hwn, darganfydda sut mae'r trefniant ddwyfol o ddigwyddiadau dynol, ac amrywiol ymatebion i'w ddyfodiad, yn amlygu hiraeth ein calonnau. O frenhinoedd a llywodraethwyr i fugeiliaid a wyryfon disgwylgar, mae dyfodiad Iesu yn datgelu’r hyn dŷn ni’n ei drysori. Dewch o hyd i lawenydd eich calon ynddo y Nadolig hwn.
More
Cynlluniau Tebyg
![Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44796%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist
![Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44485%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial
![Coda a Dos Ati](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F43961%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Coda a Dos Ati
![Ymarfer y Ffordd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F42239%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Ymarfer y Ffordd
![Hadau: Beth a Pham](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44130%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Hadau: Beth a Pham
![Dwyt ti Heb Orffen Eto](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40720%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Dwyt ti Heb Orffen Eto
![Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F43442%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd
![Rhoi iddo e dy Bryder](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F48882%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Rhoi iddo e dy Bryder
![P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40702%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw
![Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F50414%2F320x180.jpg&w=640&q=75)