Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Pob Calon HiraethusSampl

Every Longing Heart

DYDD 1 O 7

Dyfarniad Anghyfleus a Gyflawnodd Broffwydoliaeth

Gyda llofnod cyhoeddodd Cesar Awgwstws ddyfarniad cyfrifiad a oedd yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r trigolion qddychwelyd i drefi eu hynafiaid i gael eu cyfrif. Gyda gwybodaeth am ba mor bell ac eang yr ymestynnodd yr ymerodraeth, gallai Rhufain fynnu fwy o drethi ac adeiladu byddin mwy a gwell. Roedd y cyfrifiad yn anghyfleustra i’r rhai oedd yn gaeth o dan Awgwstws, ond doedd dim ots ganddo am hynny. Roedd yn poeni dim, ond am adeiladu a sicrhau ei deyrnas.

Ychydig a wyddai fod Duw yn defnyddio ei ddyfarniad cyfrifiad i gyflwyno teyrnas wahanol na fyddai diwedd iddi, Teyrnas Dduw.

Pan gyrhaeddodd y newyddion am y cyfrifiad, Mair a Joseff, roedden nhw’n byw yn Nasareth, 90 milltir i ffwrdd o dref Bethlehem, ac roedd Mair yn agos at amser gen i’r plentyn. Gadawodd Joseff a Mair am y daith galed i Fethlehem heb amser i'w wastraffu. Er ei bod yn rhaid bod hyn yn ymddangos yn anghyfleus ac yn anghyfforddus, roedd mwy yn digwydd nag oedden nhw’n sylweddoli.

Saith can mlynedd ynghynt, fe ragfynegodd y proffwyd Micha mai Bethlehem fyddai man geni’r Meseia hir-ddisgwyliedig. Pe bai Iesu wedi ei eni yn Nasareth ac nid Bethlehem, ni fyddai’r Ysgrythur wedi’i chyflawni, ac ni allai fod wedi bod yn Waredwr. Ond nid oedd y broblem hon yn rhy fawr i Dduw. Defnyddiodd lywodraethwr paganaidd a dyfarniad anghyfleus i symud y teulu sanctaidd i'w le i gyflawni proffwydoliaeth Micha.

Wrth i Mair wneud ei ffordd i Fethlehem ac i’w phoenau’n esgor gynyddu, allwn ni ddim ond dyfalu os cafodd hi gysur yn y ffaith na fyddai Duw yn gadael iddi eni’r plentyn ar y daith yno. Efallai ei bod yn cofio geiriau proffwydol Micha ac na fyddai'r enedigaeth hon yn digwydd nes iddyn nhw gyrraedd Bethlehem.

Mor aml, dydyn ni ddim yn deall amseriad Duw a’r digwyddiadau sy’n digwydd yn ein bywydau. Mae ein safbwyntiau yn ein cyfyngu, ond mae Duw yn gweld manylion bach a mawr ein bywydau ac yn gweithio trwyddyn nhw i gyflawni ei ewyllys. Cymer gysur y tro nesaf y cyhoeddir dyfarniad anghyfleus neu y bydd dy gynlluniau yn cymryd tro sydyn neu annisgwyl. Mae dyfarniad cyfrifiad Cesar Awgwstws yn ein hatgoffa bod Duw bob amser ar waith ym materion dynolryw, ac ni all unrhyw beth atal ei ewyllys.

  • Sut mae Duw yn fy ngalw i feddwl yn wahanol am ddigwyddiadau byd-eang?
  • Sut mae Duw yn fy ngalw i feddwl yn wahanol am fy nghynlluniau pan fydd rhywbeth yn torri ar eu traws?
  • Sut alla i fod yn fwy di-sigl y tro nesaf na fydd pethau'n mynd yn ôl fy nghynllun?
Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Every Longing Heart

Yn emyn Nadolig enwog Charles Wesley, “Come, Thou Long Expected Jesus,” canwn mai Iesu yw llawenydd pob calon hiraethus. Dros gyfnod yr Adfent hwn, darganfydda sut mae'r trefniant ddwyfol o ddigwyddiadau dynol, ac amrywiol ymatebion i'w ddyfodiad, yn amlygu hiraeth ein calonnau. O frenhinoedd a llywodraethwyr i fugeiliaid a wyryfon disgwylgar, mae dyfodiad Iesu yn datgelu’r hyn dŷn ni’n ei drysori. Dewch o hyd i lawenydd eich calon ynddo y Nadolig hwn.

More

Hoffem ddiolch i Cara Ray am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://cara-ray.com