Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Pob Calon HiraethusSampl

Every Longing Heart

DYDD 4 O 7

Tystion Cyntaf Annisgwyl a'u Llawenydd Mwyaf

Roedd hi wedi bod yn noson fel mil o nosweithiau eraill. Ymgasglodd criw o fugeiliaid o amgylch y tân gwersyll i adrodd straeon a chanu caneuon. Ond yn sydyn, holltodd yr awyr yn agored, a dallodd gogoniant tanbaid angel eu llygaid a llenwi eu calonnau â braw.

Wedi’u hamgylchynu gan ogoniant yr Arglwydd, gwelodd y bugeiliaid angel (Gabriel yn ôl pob tebyg) yn cyhoeddi’r newyddion da am enedigaeth Crist, ac yna côr o gannoedd o filoedd o angylion yn canu mawl i Dduw. Roedd yr olygfa gyfan fel llen a oedd wedi lled agordigoni roi cipolwg i'r bugeiliaid ar gyngerdd addoli parhaus y nefoedd.

Ond o’r holl bobl y gellid bod wedi gwneud y cyhoeddiad nefol hwn iddyn nhw, pam y cafodd ei roi gyntaf i griw o fugeiliaid dinod?

Bu gan Dduw tipyn o feddwl o fugeiliaid erioed. Bugail oedd brenin mwyaf Israel, Dafydd, a gwasanaethodd Moses ei dad-yng-nghyfraith fel bugail am gyfnod. Er gwaethaf enwau mawr yn eu rhengoedd, roedd bugeiliaid mor agos at waelod yr ysgol gymdeithasol ag y gallech ei gael. Roedd eu gwaith yn eu gwneud yn aflan yn seremonïol, ac yn golygu na allen nhw gymryd rhan yn y defodau Iddewig.

Eto, datgelodd Duw y newyddion arloesol hyn i'r bugeiliaid dienw, ac efallai selog. Mae'r stori hon yn llawn cyferbyniadau ac eironi. Noson dywyll serennog, wedi'i thorri gan olau, gogoneddus, oedd yn ddigon i’ch dallu. Dynion llawn braw, yn wynebu angylion afieithus a dedwydd. Bugeiliaid syml yn cael eu trawsnewid yn efengylwyr. Yn fwyaf eironig oll, mae’n debyg bod y bugeiliaid yn gofalu am ddiadell o ŵyn aberthol y dyfodol, gan fod Oen Duw wedi’i eni a’i osod mewn cafn bwydo anifeiliad gerllaw. Yn eu brys i weld y plentyn, allen nhw fod wedi gwybod eu bod yn gweld yr oen aberthol olaf - Oen Duw?

Mae’r ffaith y byddai Duw yn rhannu’r newyddion da â bugeiliaid yn gyntaf, ynddo’i hun, yn newyddion da. Does dim llawer ohonom yn ddoeth yn ôl safonau bydol, yn bwerus, neu wedi ein geni o dras bonheddig. Mae Duw yn dewis pethau ffôl y byd i waradwyddo'r doeth. Os yw cael eich cyfrif ymhlith pethau ffôl y byd yn rhoi sedd rheng flaen i chi ar gyfer y cyhoeddiad mwyaf a wnaed erioed, gadewch i ni fod yna, ar y blaen! Roedd y cyhoeddiad angylaidd i fod i ddod â llawenydd mawr iddyn nhw, a'i fwriad yw dod â'r un peth i ti heddiw. Mae'r Gwaredwr wedi'i eni! Mae'r newyddion da hwn yn dod â'r llawenydd mwyaf inni, yn awr ac am byth.

  • Sut mae Duw yn fy ngalw i feddwl yn wahanol am sut dw i'n edrych ar eraill?
  • Sut mae Duw yn fy ngalw i feddwl yn wahanol am sut dw i'n edrych ar fy hun?
  • Sut mae'r cyhoeddiad angylaidd hwn yn effeithio ar fy llawenydd o ddydd i ddydd?
Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Every Longing Heart

Yn emyn Nadolig enwog Charles Wesley, “Come, Thou Long Expected Jesus,” canwn mai Iesu yw llawenydd pob calon hiraethus. Dros gyfnod yr Adfent hwn, darganfydda sut mae'r trefniant ddwyfol o ddigwyddiadau dynol, ac amrywiol ymatebion i'w ddyfodiad, yn amlygu hiraeth ein calonnau. O frenhinoedd a llywodraethwyr i fugeiliaid a wyryfon disgwylgar, mae dyfodiad Iesu yn datgelu’r hyn dŷn ni’n ei drysori. Dewch o hyd i lawenydd eich calon ynddo y Nadolig hwn.

More

Hoffem ddiolch i Cara Ray am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://cara-ray.com