Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Pob Calon HiraethusSampl

Every Longing Heart

DYDD 5 O 7

Gwŷr doeth paganaidd yn barod i Addoli

Pan ddaeth y gwŷr doeth i mewn i Jerwsalem, fe wnaethon nhw achosi cryn gynnwrf. Roedd yn anodd colli'r tramorwyr ffansi wrth iddyn nhw grwydro'r marchnadoedd i chwilio am leoliad Brenin newydd-anedig.

Roedd pawb, o'r gwerthwyr ffrwythau at y prif oeiriaid, mewn penbleth llwyr. Mor rhyfedd y mae yn rhaid ei bod yn ymddangos iddyn nhw, nad oedd y bobl y ganwyd y Brenin iddyn nhw, yn gwybod ble roedd r, a doedd ddim yn ymddangos eu bod yn ei ddisgwyl ychwaith. Oedden nhw ddim yn gwybod eu hysgrythurau eu hunain?

Bron i 600 mlynedd ynghynt, tra'n byw yng nghaethiwed Babylonaidd, rhagfynegodd Daniel amseriad dyfodiad y Meseia. Roedd ei broffwydoliaethau wedi dal diddordeb y gwŷr doeth, ac roedden nhw wedi cyfrifo'n ofalus, gan y sêr, ddyfodiad disgwyliedig y Meseia.

Am gannoedd o flynyddoedd, roedden nhw wedi aros. Pan ymddangosodd y seren, roedden nhw'n gwybod bod yr amser wedi dod. Fe wnaethon nhw lwytho eu camelod ag anrhegion a mynd i chwilio am y Brenin newydd-anedig.

Llwyth offeiriadol paganaidd o deyrnas y Mediaid a'r Persiaid oedd y gwŷr doeth. Roedden nhw, nid yn unig yn astudio seryddiaeth a sêr-ddewiniaeth, ond hefyd yn defnyddio pŵer gwleidyddol aruthrol. Yn cael ei adnabod fel “Gorseddwyr brenhinoedd” y dydd, nid oedd unrhyw Frenin Persia yn gyfreithlon oni bai bod y gwŷr doeth wedi ei goroni. Roedd y Gorsedd ŵyr brenhinoedd ar genhadaeth i goroni Brenin y brenhinoedd.

Felly tra oedd Israel yn cysgu'n ysbrydol, roedd y gwŷr doeth yn disgwyl yn ddisgwylgar am eu Meseia. Heb wybod ble i ddod o hyd iddo, aethon nhw i Jerwsalem a holi amdano yno.

Os nad wyt yn siŵr mai Brenin y Byd yw’r babi yn y cafn bwydo anifeiliaid, dw i’fe’chn dy wahodd i wneud fel y gwnaeth y gwŷr a chwilio amdano. Nid yw'n cuddio ac mae'n addo dod i’panr golwg pan fyddwn ni'n chwilio amdano â'n holl galon. Agora Air Duw a dechrau darllen. Pan fyddi di'n gwneud hynny, byddi di'n ymateb fel y gwŷr doeth oedd yn argyhoeddedig eu bod wedi dod o hyd i'r Brenin, ac fe wnaethon nhw syrthio wrth ei draed yn yr addoliad. Fe yw hiraeth pob calon ddynol. Mae gwŷr doeth yn dal i chwilio amdano ac yn ei addoli. Wyt ti?

  • A yw'n syndod i ti fod paganiaid yn fwy awyddus i addoli'r Brenin Iesu na'r Iddewon crefyddol? Pam?
  • Gwariodd y gwŷr doeth ar adnoddau mawr (amser ac arian) i ddod o hyd i atebion i'w cwestiynau am y Brenin a'i seren. Sut wyt ti’in gallu chwilio yn eiddgar am atebion i’th gwestiynau amdano?
  • Beth mae Duw yn dy alw i'w wneud yng ngoleuni hyn
Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Every Longing Heart

Yn emyn Nadolig enwog Charles Wesley, “Come, Thou Long Expected Jesus,” canwn mai Iesu yw llawenydd pob calon hiraethus. Dros gyfnod yr Adfent hwn, darganfydda sut mae'r trefniant ddwyfol o ddigwyddiadau dynol, ac amrywiol ymatebion i'w ddyfodiad, yn amlygu hiraeth ein calonnau. O frenhinoedd a llywodraethwyr i fugeiliaid a wyryfon disgwylgar, mae dyfodiad Iesu yn datgelu’r hyn dŷn ni’n ei drysori. Dewch o hyd i lawenydd eich calon ynddo y Nadolig hwn.

More

Hoffem ddiolch i Cara Ray am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://cara-ray.com