Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Pob Calon HiraethusSampl

Every Longing Heart

DYDD 3 O 7

Llawforwyn Gwylaidd a'i Duw Gwych

Roedd hi'n ferch ifanc ddi-briod ac ar fin dod yn feichiog o bentref bach di-nod Nasareth. Yn ôl ei chyfrif ei hun, doedd hi'n neb go iawn. Ac eto, roedd gan yr angel Gabriel newyddion iddi yn dweud fel arall. Dwedodd wrthi fod Duw yn ei ffafrio’n fawr ac y byddai’n cael ei hystyried y mwyaf bendithiol ymhlith merched… erioed.

Ei braint anghynarol oedd beichiogi a geni’r Mab, y Meseia, ac ni fyddai diwedd ar ei deyrnas. Ond efallai mai’r peth mwyaf ysgytwol oedd y manylion y byddai’n geni’r Meseia fel gwyryf.

Pe bai gan unrhyw fenyw reswm mynd i banig ynghylch y newyddion am feichiogrwydd annisgwyl, Mair oedd hi. Roedd ei sefyllfa bron yn amhosibl i’w esbonio a gallai ei difetha'n gymdeithasol. Ond roedd ymateb Mair i’r newyddion hwn mor arallfydol â’r negesydd wnaeth ei roi iddi. Amlygwyd galon ifanc, wedi ei thrwytho mor drylwyr yng ngwirioneddau gair Duw, fel na allai dim ei hysgwyd.

Roedd cân Mair, neu y Magnificat, yn orlawn o addoliad i’r hyn a wnaeth Duw iddi hi ac i Israel, a chenedlaethau’r dyfodol. Wrth iti ei ddarllen, ystyria sut roedd calon Mair yn dyheu am addoli a diolch.

1. Diolchodd am y Presennol

Wedi ei llethu gan ganmoliaeth, cyfeiriodd Mair at Dduw dros ugain o weithiau yn ei chân, ac wyth gwaith canmolodd ef am yr hyn a wnaeth. Roedd ei chalon yn cyd-fynd â gweld Duw ar waith ym mhob rhan o'i bywyd. Dymuniad pennaf Mair oedd gogoneddu, neu fawrhau, enw’r Arglwydd.

2. Diolchodd am y Dyfodol

Gwelodd Mair y gwaith achubol yr oedd Duw yn ei wneud yn y dyfodol trwy’r Mab wnaeth ei eni. Hyd yn oed yn ei hieuenctid, roedd yn cydnabod bod Duw yn dymchwel y drefn gymdeithasol arferol ac yn dyrchafu morwyn gwylaidd fel hi.

3. Diolchodd am y Gorffennol

Oherwydd ei dealltwriaeth drylwyr o'r Ysgrythur, roedd Mair yn gallu gweld ei hamgylchiadau arbennig yng ngoleuni popeth roedd Duw eisoes wedi'i wneud dros Israel. Gwelodd ei rhan yn stori achubol ysgubol Duw, gan ddychwelyd at y cyfamod Abrahamaidd. Roedd Duw wedi bod yn ffyddlon yn y gorffennol a byddai'n parhau i fod yn ffyddlon ymhlith ei holl bethau anhysbys.

Mair oedd y gyntaf i gyfaddef nad oedd hi ond morwyn gwylaidd i'r Arglwydd. Ond gwelodd Duw y tu hwnt i’w gwyleidd-dra, a rhoddodd iddi'r fraint harddaf a roddodd erioed i unrhyw fenyw.

Ers Efa, dŷn ni i gyd wedi cael ein geni dan felltith pechod, ond roedd Mab Mair yn eithriad. Nid oherwydd bod Mair yn ddibechod ond oherwydd bod Iesu, wedi ei eni o'r Ysbryd Glân, yn.

Cafodd Mair ei bendithio, ac fe wnaeth ei chân ddangos calon ifanc yn gorlifo â diolchgarwch a pharchedig ofn. Ystyria ei geiriau, a cheisia feithrin ei gostyngeiddrwydd a'i chydnabod o'i hannheilyngdod gerbron Duw. Wrth wneud hynny fe welwn ni Dduw fel y gwnaeth Mair, gwir hiraeth ein calonnau.

  • Diolcha i Dduw am dy orffennol, dy bresennol a’th ddyfodol. Sut mae ei ffyddlondeb i ti yn y gorffennol wedi cynyddu’r ffordd rwyt yn trystio ynddo nawr, ac yn y dyfodol?
  • Sut mae Duw yn ad-drefnu dy deimladau i'w garu gymaint mwy?
  • Sut mae Duw yn dy alw i fynegi mwy o ddiolchgarwch heddiw?

Ysgrythur

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Every Longing Heart

Yn emyn Nadolig enwog Charles Wesley, “Come, Thou Long Expected Jesus,” canwn mai Iesu yw llawenydd pob calon hiraethus. Dros gyfnod yr Adfent hwn, darganfydda sut mae'r trefniant ddwyfol o ddigwyddiadau dynol, ac amrywiol ymatebion i'w ddyfodiad, yn amlygu hiraeth ein calonnau. O frenhinoedd a llywodraethwyr i fugeiliaid a wyryfon disgwylgar, mae dyfodiad Iesu yn datgelu’r hyn dŷn ni’n ei drysori. Dewch o hyd i lawenydd eich calon ynddo y Nadolig hwn.

More

Hoffem ddiolch i Cara Ray am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://cara-ray.com