Logo YouVersion
Eicon Chwilio

21 Dydd i OrlifoSampl

21 Days to Overflow

DYDD 7 O 21

Gwrthod Maddau

Mae gwrthod maddau yn ddrwg. Mae'n ddinistriol yn ysbrydol, yn emosiynol ac yn gorfforol. Mae'n cymryd ac yn cymryd, ac yn rhoi dim byd yn gyfnewid. Yn fwy na hynny, dŷn ni’n gweld o'r ysgrythur fod ein maddeuant Duw i ni yn dibynnu ar ein bod ni yn maddau i eraill. Mae tragwyddoldeb, yn llythrennol nefoedd ac uffern, yn hongian yng nghydbwysedd ein parodrwydd i faddau. Mae tynged ein heneidiau yn dibynnu ar ein penderfyniad i faddau, neu beidio â maddau i'n gilydd.

Mae Mathew 6:14-15 yn gwneud yr egwyddor hon yn gwbl glir. Pan fyddwn ni'n maddau i'n brodyr a chwiorydd sydd wedi pechu yn ein herbyn, bydd Duw yn maddau i ni. Ond pan fyddwn ni ddim yn maddau i eraill, ni fydd Duw yn maddau i ni ychwaith.

Mae Effesiaid 4:32 yn ymlaen i ddweud bod angen i ni ddangos y maddeuant y mae Crist Duw wedi ei ddangos i ni gyntaf. Mae angen i ni ddangos tosturi at ein brodyr a chwiorydd. Sut fedrwn ni ddim? Doedden ni ddim yn haeddu’r maddeuant ddangosodd Duw i ni. Sut fedrwn ni ddweud nad yw rhywun arall yn haeddu ein maddeuant ni?

Dealla hyn: dŷn ni ddim yn maddau i eraill drostyn nhw. Dŷn ni’n maddau iddyn nhw drosom ni. Nid yw ein diffyg maddeuant i berson yn eu cadw’n gaeth mewn cadwyn. Mae'n ein cadw ni’n gaeth mewn cadwyn. Mae yna ryddid sy'n dod pan dŷn ni'n maddau. Wrth i ni weddïo heddiw, bydd y cadwyni sy'n disgyn yn disgyn oddi arnom ni. Hyd yn oed os nad yw pobl byth yn maddau i ni, does dim ots. Byddwn yn rhydd. Fe'n gwneir yn iawn gyda Duw.

Diwrnod 6Diwrnod 8

Am y Cynllun hwn

21 Days to Overflow

Yn y cynllun YouVersion, 21 dydd i Orlifo bydd Jeremiah Hosford yn mynd â’r darllenwyr ar daith 3 wythnos o wagio eu hunain, cael eu llenwi â’r Ysbryd Glân, a byw bywyd yn gorlifo o’r Ysbryd. Mae’n bryd rhoi’r gorau i fyw bywyd normal a dechrau byw bywyd sy’n gorlifo!

More

Hoffem ddiolch i Four Rivers Media am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.theartofleadership.com/