Logo YouVersion
Eicon Chwilio

21 Dydd i OrlifoSampl

21 Days to Overflow

DYDD 9 O 21

Newyn Ysbrydol

Fedri di wastad ddweud pan fydd archwaeth yn newid, oherwydd bydd bob amser yn cynhyrchu rhywbeth gwahanol. Os bydd ein harchwaeth yn newid o bethau Duw i bethau'r byd, bydd y newyn hwnnw yn cynhyrchu pethau'r byd. I'r gwrthwyneb, os bydd ein harchwaeth yn newid o bethau'r byd i bethau Duw, bydd y newyn hwnnw yn cynhyrchu pethau Duw.

Beth sy'n cael ei gynhyrchu yn dy fywyd heddiw? Pa bethau sy'n dod o'th gerddediad o ddydd i ddydd, dy siarad, dy weithredoedd, dy gymhellion a'th nwydau? Os wyt yn cynhyrchu pethau’r byd yn bennaf, mae dy archwaeth wedi newid o bethau’r Ysbryd i bethau’r byd. Os wyt yn cynhyrchu pethau'r Ysbryd yn bennaf, mae dy archwaeth wedi newid o bethau'r byd i bethau'r Ysbryd.

Os yw fy archwaeth ar gyfer darllen am bethau fel darllen y Beibl, gweddi ac addoliad, yn breifat a chyhoeddus, yna mae gen i archwaeth go iawn. Fodd bynnag, os nad oes gen i archwaeth am y pethau hyn, mae fy archwaeth am bethau anaddas.

Gad i ni weld beth mae’r Beibl yn ddweud am archwaeth. Yn Ioan 6:25-70, mae Iesu’n galw ei hun yn “fara sy’n rhoi bywyd.” Beth mae hyn yn ei olygu? Roedd y disgyblion ddim yn deall ychwaith. Roedd Iesu’n galw ei hun yn ffynhonnell ein maeth ysbrydol. Roedd yn dweud wrthon ni, pan fyddwn ni'n newynog, yn ysbrydol, y gallwn ni fynd ato a bod yn llawn.

Yn Eseia 55:1-2, dŷn ni’n gweld y gymhariaeth yn cael ei defnyddio eto. Mae’r rhai hynny sy’n sychedig a llwglyd, ond yn cael bwyta ac yfed, sut mae hyn yn bosibl? Y rheswm ydy mai ysbrydol yw eu syched a newyn – a does dim cost i Teyrnas Dduw!

Mae angen i ni gael ein newyn yn ôl am fara ysbrydol. Mae angen archwaeth at bethau Duw. Mae angen i ni roi'r gorau i fod yn fodlon â'r cyffredin. Mae angen i ni hiraethu am faeth y Gair, gweddi, ac addoliad. Mae angen i'n stumogau hiraethu am ei bresenoldeb. Pan fyddwn yn gwneud hyn, bydd ein heneidiau yn cael eu bodloni, a bydd ein bywydau yn newid.

Diwrnod 8Diwrnod 10

Am y Cynllun hwn

21 Days to Overflow

Yn y cynllun YouVersion, 21 dydd i Orlifo bydd Jeremiah Hosford yn mynd â’r darllenwyr ar daith 3 wythnos o wagio eu hunain, cael eu llenwi â’r Ysbryd Glân, a byw bywyd yn gorlifo o’r Ysbryd. Mae’n bryd rhoi’r gorau i fyw bywyd normal a dechrau byw bywyd sy’n gorlifo!

More

Hoffem ddiolch i Four Rivers Media am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.theartofleadership.com/