21 Dydd i OrlifoSampl
Abiding in the Love of God
Ddoe, wnaethon ni ofyn i Dduw gynyddu ein cariad tuag ato e ac at eraill. Heddiw, dŷn ni'n mynd i ddysgu sut i gadw yn y cariad cynyddol hwn.
Mae trigo yn golygu i aros yn, neu fyw, yn yr un ffordd â dyn n i’n byw neu drigo yn ein tŷ. Dyma’r lle dŷn ni’n byw. Mae trigo mewn cariad yn golygu y gellir ein darganfod yn aros mewn cariad. Pan mae angen dod o hyd i ni, gellir dod o hyd i ni mewn cariad, os dŷn ni’n aros mewn cariad. Mae ein darlleniad o'r bymthegfed bennod o Efengyl Ioan yn dangos cymaint o wirioneddau pwerus i ni am sut beth yw aros mewn cariad.Mae Ioan 15:7-9 yn sôn am y gallu i gadw yng nghariad Duw. Mae'n dweud pan fyddwn yn aros ynddo e, a'i Air yn aros ynom ni, dŷn ni’n gallu gofyn beth bynnag dŷn ni ei ddymuno a bydd yn cael ei roi i ni. Mae'n gwneud hyn er ei ogoniant! Mae wrth ei fodd yn gweld ei blant yn ffynnu fel tystion o'i allu, ei ras, a'i drugaredd.
Yn Ioan 15:26, mae'n siarad ar waith yr Ysbryd Glân. Trwy ein diffygion a'n hannigonolrwydd, y mae'r Ysbryd Glan yn tystio am ddaioni Duw. Trwy gyflawniad Duw ar ein cyfer a’r derbyn ein bod yn amherffaith, dŷn ni'n dod â gogoniant iddo.
Pan fyddwn ni'n aros yn ei gariad e, mae'r Ysbryd Glân yn dod ac yn mynd gyda ni, ac yn ein llenwi nes ein bod yn gorlifo. Cyn i ni sylweddoli, mae cariad Duw yn gweithredu ynom ni a thrwom ni yn y fath fodd fel nad yw'r pethau a oedd yn arfer ein baglu, ein cadw'n effro, ein dal yn ôl, a'n gwneud yn gas, yn gallu gwneud dim o'r rhain mwyach. Dŷn ni’n dod yn anorchfygol pan fyddwn yn aros mewn cariad.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Yn y cynllun YouVersion, 21 dydd i Orlifo bydd Jeremiah Hosford yn mynd â’r darllenwyr ar daith 3 wythnos o wagio eu hunain, cael eu llenwi â’r Ysbryd Glân, a byw bywyd yn gorlifo o’r Ysbryd. Mae’n bryd rhoi’r gorau i fyw bywyd normal a dechrau byw bywyd sy’n gorlifo!
More