21 Dydd i OrlifoSampl

Profi Presenoldeb Amlwg Duw
Wrth i ni gloi ein hail wythnos yn y cynllun hwn, gad i ni ganolbwyntio ar brofi presenoldeb amlwg Duw.
Pan fydd arnom eisiau presenoldeb Duw yn fwy na dim, yn fwy na thŷ newydd, dyrchafiad, anrhydedd, neu gar newydd, fe ddaw i'r amlwg yn yr holl fannau dŷn ni’n ei geisio.
Dŷn ni wedi cael ein galw i ymarfer presenoldeb Duw. Mae hyn wedi mynd yn ddisgyblaeth goll yn yr eglwys heddiw. Dydy llawer ddim hyd yn oed yn gwybod sut i ymarfer presenoldeb amlwg Duw, oherwydd does ganddyn nhw ddim syniad beth ydy e hyd yn oed. Yn ein lleoliadau addoli, dŷn ni wedi dod i arfer gymaint â chael ein rheoli i fynd mewn ac allan mewn cyfnod penodol o amser fel nad ydyn ni’n gadael unrhyw le i Dduw amlygu ei bresenoldeb yn ein plith. Dydy Duw ddim yn dod ar ein telerau ni.
Gad i ni fynd yn ôl at Ioan 14:21. Yn yr adnod hon, mae Iesu'n datgan y bydd yr un sy'n ei garu yn cael ei garu gan y Tad ac y bydd yntau (Iesu) yn dangos ei hun iddyn nhw!
Yn Exodus 33:1-3 a 12-16, mae Duw yn rhoi cyfarwyddiadau i Moses ar gyfer arwain yr Israeliaid. Pan nad yw Moses yn teimlo’n barod i’r her ac yn gofyn i Dduw, mae Duw yn dweud y bydd yn anfon ei bresenoldeb i’w harwain. Tra bod presenoldeb Duw yn yr Hen Destament yn golofn o gwmwl yn y dydd, ac o dân yn ystod y nos, mae bellach yn amlygu ei hun yn wahanol. Trwy aberth Crist a'r Ysbryd Glân yn trigo o'n mewn, fe all e nawr amlygu ei hun trwom ni.
Dŷn ni wirioneddol angen presenoldeb amlwg Duw. Os mai'r cyfan sydd gynnon ni yw addewidion, dŷn ni wedi methu'r peth pwysicaf. Ddylen ni ddim bod yn fodlon i fyw diwrnod heb bresenoldeb amlwg Duw. Ddylen ni ddim bod yn fodlon ar wasanaeth eglwysig, cyfarfod gweddi, nac unrhyw weinidogaeth arall heb bresenoldeb amlwg Duw. Ei bresenoldeb e fydd yn gwneud gwahaniaeth. Dwedodd Iesu, os dŷn ni’n ei garu ac yn cadw ei orchmynion, bydd yn amlygu ei hun i ni. Cawsom ein creu ar gyfer hyn.
Am y Cynllun hwn

Yn y cynllun YouVersion, 21 dydd i Orlifo bydd Jeremiah Hosford yn mynd â’r darllenwyr ar daith 3 wythnos o wagio eu hunain, cael eu llenwi â’r Ysbryd Glân, a byw bywyd yn gorlifo o’r Ysbryd. Mae’n bryd rhoi’r gorau i fyw bywyd normal a dechrau byw bywyd sy’n gorlifo!
More
Cynlluniau Tebyg

Rhoi iddo e dy Bryder

Coda a Dos Ati

Dwyt ti Heb Orffen Eto

Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill

P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw

Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial

Ymarfer y Ffordd

Hadau: Beth a Pham

Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist
