Logo YouVersion
Eicon Chwilio

21 Dydd i OrlifoSampl

21 Days to Overflow

DYDD 8 O 21

Syched Ysbrydol

Ti wedi llwyddo! Wnest ti ddal ati ddal ati trwy'r gwaith poenus ac anodd o wagio popeth a fyddai'n dy rwystro rhag derbyn popeth sydd gan Dduw i ti. Am y saith niwrnod diwethaf, yr wyt wedi ymostwng, edrych arnat ti dy hun, ac wedi cael gwared â’r pethau sydd yn bodloni dy gnawd yn unig. Dydy e ddim wedi bod yn hawdd, ond mae wedi bod yn werth e.

Am y saith niwrnod nesaf, nod ein calonnau fydd cael ein llenwi â'r Ysbryd Glân. Mae'r gofod dŷn ni wedi'i greu yn ein bywydau bellach ar fin cael ei lenwi â chyflawnder Duw. Mae newid mewn cyfrannau digynsail yn dod i mewn i'ch bywyd. Paratowch ar gyfer newid bywyd.

Yn Ioan 4:13-14, mae'n disgrifio syched ysbrydol. Bydd pethau'r byd hwn - y dŵr y mae Iesu'n cyfeirio ato gyntaf - yn torri dy syched dros dro, a byddi’n profi syched eto. Yna mae'n mynd ymlaen i siarad am ddŵr a fydd yn peri i ti beidio profi syched byth eto. Y dŵr hwn yw'r Ysbryd Glân. Dyma'r dŵr dŷn ni ei eisiau.

Yn Ioan 7:37-39, mae Iesu’n mynd yn ei flaen ac yn dweud, ““Os oes syched ar rywun, dylai ddod i yfed ata i.” I dderbyn yr Ysbryd Glân I dderbyn yr Ysbryd, y “ffrydiau o ddŵr” mae angen i ni dderbyn Iesu a chredu’r hyn mae e wedi’i ddweud wrthon ni yng Ngair Duw. Ddylen ni ddim bod yn ffwrdd â hi. Dylen ni sychedu am y dŵr ffres, bywiol, all yr Ysbryd Glân yn unig ei roi

Diwrnod 7Diwrnod 9

Am y Cynllun hwn

21 Days to Overflow

Yn y cynllun YouVersion, 21 dydd i Orlifo bydd Jeremiah Hosford yn mynd â’r darllenwyr ar daith 3 wythnos o wagio eu hunain, cael eu llenwi â’r Ysbryd Glân, a byw bywyd yn gorlifo o’r Ysbryd. Mae’n bryd rhoi’r gorau i fyw bywyd normal a dechrau byw bywyd sy’n gorlifo!

More

Hoffem ddiolch i Four Rivers Media am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.theartofleadership.com/