Logo YouVersion
Eicon Chwilio

21 Dydd i OrlifoSampl

21 Days to Overflow

DYDD 6 O 21

Beio

Wyt ti wedi cael dy feio erioed?

Beio yw un o’r arfau mwyaf effeithiol y mae Satan yn ei ddefnyddio yn ei ymgyrch i rwystro pobl Dduw. Mae'n dod â hyd yn oed y rhai mwyaf pwerus i lawr. Mae'n defnyddio beio i gadw Teyrnas Dduw rhag bod yn fwyaf effeithlon. Mae e’n defnyddio beio i ddatgymalu eglwysi. Mae e'n defnyddio beio i rwygo teuluoedd yn ddarnau. Mae e’n defnyddio beio i rannu credinwyr. Mae'n defnyddio beio i barhau ymestyn salwch emosiynol, meddyliol a chorfforol mewn pobl.

Mae Diarhebion 17:9 yn dweud fod y rhai sy'n cuddio bai yn chwilio am gariad, ond y mae'r rhai sy'n ei ailadrodd yn gwahanu ffrindiau agos. Nid yw canslo bai o reidrwydd yn golygu nad wyt yn ei gofio ac yn ei anghofio’n llwyr. Mae’n golygu nad wyt yn ei ddwyn i gof ac nad wyt yn dal dig yn erbyn dy frawd neu chwaer. Mae'n golygu dy fod di'n symud ymlaen ac yn dangos y maddeuant mae Duw wedi'i ddangos i ti a'r rhai o'th gwmpas.

Yn Hebreaid 12:15, mae’n dweud bod ni i sicrhau bod pawb yn derbyn gras Duw. Dylai’r gras hwn, a ddangoswyd yn gyntaf i ni gan Dduw dros ein pechodau, gael ei drosglwyddo ymlaen. Dylen ni fod yn gyflym i faddau i'r rhai sy'n gwneud cam â ni! Yna mae'n mynd ymlaen i sôn am wreiddyn chwerwder sy'n arwain at helbul. Mae modd diffinio'r gwreiddyn hwn mewn sawl ffordd, ond wrth grynhoi, mae'n fai. Ni allwn adael i eraill ein tramgwyddo i'r graddau ein bod yn dal gafael ar y chwerwder yn eu herbyn yn ein calonnau.

Peidiwch â gadael i dramgwydd wreiddio yn eich bywydau. Byddwch yn gyflym i faddau a byddwch yn gyflym i ofyn i eraill am faddeuant. Os dŷn ni am orlifo o'r Ysbryd, allwn ni ddim gadael i feio fod yn ffactor ysgogol yn ein bywydau!

Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

21 Days to Overflow

Yn y cynllun YouVersion, 21 dydd i Orlifo bydd Jeremiah Hosford yn mynd â’r darllenwyr ar daith 3 wythnos o wagio eu hunain, cael eu llenwi â’r Ysbryd Glân, a byw bywyd yn gorlifo o’r Ysbryd. Mae’n bryd rhoi’r gorau i fyw bywyd normal a dechrau byw bywyd sy’n gorlifo!

More

Hoffem ddiolch i Four Rivers Media am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.theartofleadership.com/