Logo YouVersion
Eicon Chwilio

21 Dydd i OrlifoSampl

21 Days to Overflow

DYDD 5 O 21

Balchder

Dŷn ni wedi cyrraedd y pumed diwrnod o wagu ein hunain ohonom ni’n hunain. Dydy e ddim ‘di bod yn hawdd!

Sawl gwaith mae Duw wedi gofyn inni wneud rhywbeth, a ninnau naill ai heb ei wneud, neu wedi ei wneud hanner ffordd? Dyma falchder. Dyma dŷn ni'n ei ddweud, “Fi yw duw, a dw i’n gwybod beth sydd orau i mi yn y sefyllfa hon.”

Mae balchder yn rhedeg yn rhemp yn y byd sydd ohoni. Balchder mewn bri personol, balchder mewn incwm, balchder mewn gallu, balchder mewn teulu, a llawer mwy. Mae’r balchder hwn yn ein troi oddi wrth Dduw ac yn gwneud inni ganolbwyntio arnom ein hunain a’r hyn y gallwn ei gyflawni.

Yn Iago 4:6-8, dywed Iago fod Duw yn gwrthwynebu pobl falch ac yn hael at y rhai gostyngedig. Mae angen i ni ymostwng ein hunain yn wyneb yr Arglwydd i dderbyn ei ffafr. Pan sylweddolwn y cyfan sydd gennym a'r cyfan dŷn ni wedi'i gyflawni yw bendith gan yr Arglwydd, does dim lle gynnon ni ar gyfer balchder.

Mae Diarhebion 16:18 yn ychwanegu at y perygl o falchder trwy ddweud ei fod yn rhagflaenydd i ddinistr. Mae balchder yn arwain at ddinistr! Os dŷn ni’n gwybod bod hyn yn wir, pam dŷn ni’n parhau i ddal gafael mewn balchder dros bethau di-nod yn ein bywydau?

I fyw bywyd sy’n gorlifo, rhaid i ni gael gwared ar falchder. Os dŷn ni am fod yn llawn Ysbryd, does dim lle iddo. Gweddïa a gofyn i'r Arglwydd ddatgelu unrhyw falchder cudd yn dy fywyd er mwyn i ti allu ei ddilyn yn llawnach.

Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

21 Days to Overflow

Yn y cynllun YouVersion, 21 dydd i Orlifo bydd Jeremiah Hosford yn mynd â’r darllenwyr ar daith 3 wythnos o wagio eu hunain, cael eu llenwi â’r Ysbryd Glân, a byw bywyd yn gorlifo o’r Ysbryd. Mae’n bryd rhoi’r gorau i fyw bywyd normal a dechrau byw bywyd sy’n gorlifo!

More

Hoffem ddiolch i Four Rivers Media am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.theartofleadership.com/