Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwneud lle ar gyfer yr hyn sy'n bwysig: 5 Arferiad Ysbrydol ar gyfer y GrawysSampl

Make Space for What Matters: 5 Spiritual Habits for Lent

DYDD 7 O 7

Arferion Ysbrydol - Gair o Rybudd>

Cyn dechrau ei weinidogaeth gyhoeddus, aeth Iesu o’i wirfodd i’r anialwch am ddeugain diwrnod i fod ar ben ei hun. Gwnaeth y cyfnod hwn ei baratoi i wrthsefyll temtasiynau’r diafol gan gamu i’r alwad roedd gan Dduw

Wrth iti barhau i nesáu at Dduw bob dydd drwy’r Grawys, bydd yr hyn y byddi’n ei ymarfer, drwy’r cyfnod hwn, yn dod yn rhan naturiol o dy rythmau dyddiol.

Ac wrth iddyn nhw ddod yn rhythmau naturiol byddi’n dechrau sylweddoli fod dy fywyd yn dechrau edrych yn wahanol am dy fod yn eu hymarfer. Rwyt yn creu lle i Dduw drawsnewid dy galon fel bod ei ogoniant e’n gallu cael ei ddangos drwy dy fyd blinedig sydd angen gobaith a Gwaredwr.

Ond, pan fyddi di’n ymarfer y pethau hyn cadwa mewn golwg nad yr arferion ysbrydol yw’r nod terfynol. Y nod yw cael agosatrwydd dyfnach gyda Duw. Mae Gair Duw’n ei gwneud hi’n glir fod ufudd-dod yn well nac aberth. Mae hyn yn golygu pan fyddwn ni’n aberthu unrhyw beth, dylai ddod o le o ildiad gostyngedig, - nid o synnwyr o ddyletswydd arwynebol.

Felly, wrth iti baratoi ar gyfer Sul yr Atgyfodiad, atgoffa dy hun nad yw Duw’n disgwyl i ti dyfu yn yr Ysbryd ar dy ben dy hun. Caniatâ i’th hyn i fynd ato yn dy amherffeithrwydd, achos grym Duw sy’n cael ei wneud yn berffaith yn dy wendid.

Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Make Space for What Matters: 5 Spiritual Habits for Lent

Y Grawys: Tymor o 40 diwrnod o fyfyrdod ac edifeirwch. Mae’n syniad da, ond sut olwg sydd ar ymarfer y Garawys mewn gwirionedd? Dros y 7 diwrnod byddi'n darganfod pum arferiad ysbrydol y gelli di ddechrau eu gwneud yn ystod y Grawys i baratoi dy galon ar gyfer Sul yr Atgyfodiad - a thu hwnt.

More

Cafodd y Cynllun Beibl gwreiddiol ei greu a'i ddarparu gan YouVersion.