Gwneud lle ar gyfer yr hyn sy'n bwysig: 5 Arferiad Ysbrydol ar gyfer y GrawysSampl
Arferion Ysbrydol: Llonyddwch
Dychmyga dy fod yn sefyll ar fryn ar ben dy hun. Mae nant yn llifo wrth ymyl i ti, trsa bod adar yn trydar yn hapus uwch dy ben. Mae’r haul yn tywynnu arnat tra bod awel braf yn chwythu. Mae popeth yn edrych yn llonydd a thawel – ond mae dy feddwl yn rhuthro drwy dasgau rwyt heb eu gwneud, problemau fedri di mo’u datrys, a drygioni na elli di ei drwsio. Er dy fod mewn lle heddychlon, mae sŵn dy feddyliau yn dy rwystro rhag mwynhau beth sy’n digwydd o’th gwmpas.
Beth fyddai’n gymryd I ti oedi, tawelu’r sŵn, a bod yn llonydd?
Drwy lonyddwch dŷn ni’n dysgu i dalu sylw I’r hyn mae Duw’n ei wneud ynom ac o’n cwmpas. Ond, yn ogystal â bold yn oddefol. Mae llonyddwch yn weithredol hefyd. Mae’n ymwneud â gadael I Dduw ail ffocysu ein golwg a thiwnio ein clustiau i’w lais e, tra ein bod yn rhoi iddo y sŵn sydd o’m mewn. Mae'n gofyn am ildio ein pryderon, ein pryderon, a'n problemau i Dduw tra’n caniatáu iddo ailffocysu ein calonnau arno.
Wrth i ni ymarfer yr arferiad ysbrydol hwn, dŷn ni’n od yn fwy parod i roi gogoniant i Dduw am ei allu ar waith yn ein bywydau oherwydd dŷn ni'n dechrau sylwi ar yr hyn y mae Duw eisoes wedi bod yn ei wneud yn ein bywydau.
Cam i Weithredu: Dianc I rhywle am rai oriau yr wythnos hon ac ymarfer rhoi pa bynnag broblemau sy’n dod I’r meddwl i Dduw. Mae'n iawn os oes rhaid i ti wneud hyn dro ar ôl tro am ychydig. Defnyddia’r amser hwn i dawelu’r sŵn y tu mewn i ti dy hun a dod i’r arferiad o wneud lle i glywed llais Duw.
Am y Cynllun hwn
Y Grawys: Tymor o 40 diwrnod o fyfyrdod ac edifeirwch. Mae’n syniad da, ond sut olwg sydd ar ymarfer y Garawys mewn gwirionedd? Dros y 7 diwrnod byddi'n darganfod pum arferiad ysbrydol y gelli di ddechrau eu gwneud yn ystod y Grawys i baratoi dy galon ar gyfer Sul yr Atgyfodiad - a thu hwnt.
More