Gwneud lle ar gyfer yr hyn sy'n bwysig: 5 Arferiad Ysbrydol ar gyfer y GrawysSampl
Arferion Ysbrydol - Myfyrio
Gwaith. Ysgol. Perthnasoedd. Materion Iechyd. Biliau. Pandemigau Byd-Eang. Gyda chymaint yn mynd ymlaen yn ein bywydau mae’n hawdd iawn i’n sylw gael ei denu oddi wrth y pethau yr hoffem i’n bywydau gynnwys.
Felly, oeda am funud, a chymer anadl ddofn. Wrth iti anadlu allan, dychmyga roi o’r neilltu beth bynnag sy’n dy boeni neu’n tynnu dy sylw ac yna, ffocysa ar y geiriau yma:
“Ysbryd Duw luniodd fi, anadl yr Un sy’n rheoli popeth sy’n fy nghadw i’n fyw.” Job, pennod 33, adnod 4 beibl.net
Meddylia am yr adnod yna am funud. Darllena’r adnod eto gan dalu sylw i bob gair.
Wrth iti fyfyrio ar y darn, ystyria hyn: mae dy anadl yn cael ei gynnal gan yr un ddaeth â thi i fodolaeth. Er bod bywyd yn gallu teimlo’n llethol ar brydiau, dwyt ti fyth yn bell oddi wrth Duw wnaeth dy greu a’th alw wrth dy enw.
Oeda eto.
Yr hyn rwyt ti newydd edrych arno yw esiampl syml o fyfyrio Ysgrythurol. Mae myfyrio yn cael ei ddisgrifio’n aml yn y Beibl fel ffordd i ddilynwyr Duw ail ffocysu a myfyrio ar ei eiriau.
Dydy myfyrio ddim yn rhywbeth y gallwn ei wneud yn ein nerth ein hunain. Mae’n golygu agosáu at Dduw a gofyn iddo’n gwneud ni’n ymwybodol o’i feddyliau a’i ffyrdd.
Mae myfyrio Beiblaidd yn ein helpu i weld ein hamgylchiadau o safbwynt sanctaidd am ein bod yn gadael i’n hamgylchiadau ddylanwadu ar ein safbwyntiau. Pan dŷn ni’n dewis neilltuo amser i fyfyrio ar yr Ysgrythur, dŷn ni’n dewis i symud ein ffocws at Dduw a’i Air ac oddi ar ein hunain a’r byd. Dŷn ni’n caniatáu i Dduw i drawsnewid ein meddyliau ac ail-lunio ein golwg o’r byd.
Felly, wrth iti baratoi ar gyfer yr wythnosau o’th flaen, rho dro ar hoelio dy sylw ar Dduw a’I Air bob dydd.
Gweithredu: Bwyda dy hun ar Air Duw yn ystod y Grawys drwy ddysgu pob un o Adnodau y Dydd. Wrth iti wneud hyn tala sylw i rai o’r geiriau neu ymadroddion sy’n sefyll allan iti, a gofynna i Dduw egluro beth mae e eisiau iti ddysgu o’r adnod honno.
Am y Cynllun hwn
Y Grawys: Tymor o 40 diwrnod o fyfyrdod ac edifeirwch. Mae’n syniad da, ond sut olwg sydd ar ymarfer y Garawys mewn gwirionedd? Dros y 7 diwrnod byddi'n darganfod pum arferiad ysbrydol y gelli di ddechrau eu gwneud yn ystod y Grawys i baratoi dy galon ar gyfer Sul yr Atgyfodiad - a thu hwnt.
More