Gwneud lle ar gyfer yr hyn sy'n bwysig: 5 Arferiad Ysbrydol ar gyfer y GrawysSampl
Arferion Ysbrydol - Ymprydio
Pan wyt ti’n meddwl am “ymprydio” beth sy’n dod i’r meddwl?
Falle dy fod yn gweld yn llygad dy feddwl pobl yn llwgu eu hunain o’u gwirfodd. Falle dy fod yn meddwl am fynach yn byw ar fara sych. Neu falle fod yn well gennyt beidio mwdwl am ymprydio o gwbl…fyth.
Treuliodd Iesu 40 diwrnod yn yr anialwch yn ymprydio. Ac ar sail ei sgyrsiau gyda’i ddisgyblion, roedd ymprydio yn arferiad roedd e’n tybio y bydden nhw ei ymarfer hefyd.
Ond mae creu lle’n fwriadol yn ein bywydau i glywed Duw drwy gael gwared ar bethe sy’n rhoi pleser ar unwaith i ni, yn gallu teimlo’n anghyfforddus - yn arbennig pan mae ein byd yn gorfoleddu pleser.
Dyma 3 rheswm pam fod ymprydio o bwys:
Mae ymprydio’n llwgu’r hyn sy’n ein stopio rhag mwynhau presenoldeb Duw. Mae’n ein gorfodi i dalu sylw i’r rhannau hynny o’n bywydau dŷn ni’n boddi drwy gôr yfed yn hwyr y nos a sgrolio drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Ac yn y broses mae’n ein dysgu i ddibynnu ar Iesu i ateb ein hanghenion.
Mae ymprydio’n ein gwahodd i ildio rhywbeth dŷn ni’n ei garu i wneud lle i rywbeth dŷn ni’n ei garu gymaint mwy. Fodd bynnag, er bod rhoi’r gorau i rywbeth rwyt yn ei hoffi’n ddirfawr, fel bwyd, yn gallu teimlo’n anodd ac anghyfforddus, mae, mewn gwirionedd, yn gyfle i brofi llawenydd mawr, oherwydd mae llawenydd go iawn ddim ond i’w gael pan ddaw ein nerth gan Iesu.
Mae ymprydio’n dod cyn torri tir newydd. Ymprydiodd Moses am ddeugain diwrnod tra’n derbyn y 10 gorchymyn, ymprydiodd Daniel am dair wythnos ac yna cafodd weledigaeth, ac ymprydiodd Iesu am ddeugain diwrnod ac yna goroesi temtasiynau’r diafol. Ym mhob un o’r achosion hyn, darparodd Duw eglurder, nerth, a thorri tir newydd tu draw i aberthu ffyddlon.
Gweithredu: Tria gwblhau ympryd o bedair awr ar hugain. Os nad wyt ti wedi ymprydio’n aml, cadw’r ymarferiad hwn yn syml - y nod yma i’w llwyddo. Os wyt ti’n dechrau teimlo’n wan yn ystod dy ympryd, tro’r gwendid hwnnw’n gyfle i siarad â Duw a gwrando arno. Unwaith rwyt ti wedi cwblhau’r ympryd, gwna gofnod o’r hyn wnaeth sefyll allan yn ystod y cyfnod hwn
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Y Grawys: Tymor o 40 diwrnod o fyfyrdod ac edifeirwch. Mae’n syniad da, ond sut olwg sydd ar ymarfer y Garawys mewn gwirionedd? Dros y 7 diwrnod byddi'n darganfod pum arferiad ysbrydol y gelli di ddechrau eu gwneud yn ystod y Grawys i baratoi dy galon ar gyfer Sul yr Atgyfodiad - a thu hwnt.
More