Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwneud lle ar gyfer yr hyn sy'n bwysig: 5 Arferiad Ysbrydol ar gyfer y GrawysSampl

Make Space for What Matters: 5 Spiritual Habits for Lent

DYDD 4 O 7

Arferion Ysbrydol: Haelioni

Beth ydy’r peth mwyaf gwerthfawr rwyt ti’n berchen arno? Efallai mai dyma’r peth mwyaf gwerthfawr rwyt ti wedi gweithio dy holl fywyd i’w berchnogi, fel y tŷ, rwyt ti wedi gweithio gydol dy oes i’w fforddio. Ond gall fod yn llun hefyd o gyfnod spesial iawn wnest ti dreulio gyda rhywun rwyt yn caru. Neu, gall fod yn anrheg gan ffrind o bwys.

Mae’r gwerth dŷn ni’n ei ro iâr ein “pethau” yn blith draphlith gydag ein hemosiynau. Mae sut dŷn ni’n dewis defnyddio’r pethau dŷn ni’n eu caru fwyaf yn datgelu beth yw ein blaenoriaethau go iawn.

Marwolaeth Iesu ar y groes yw un o esiamplau mwyaf o haelioni Duw. Er gwaetha’r ffaith ei fod yn gwybod na allem fyth ei dalu nôl, wnaeth Duw ddim ildio rhag rhoi ei drysor mwyaf - ei unig Fab - drosom ni. A drwy’r weithred aberthol yna, sut olwg sydd ar haelioni: ildio o’n gwirfodd yr hyn sydd gennym fel bod rhywun arall yn gallu ffynnu, hyd yn od os yw, o ganlyniad yn achosi poen i ni.

Nid dim ond rhoi’n ariannol sydd raid i ymarfer haelioni. Mae byw’n hael, yn syml, yn cydnabod fod Duw’n gallu gwneud unrhyw beth mae e ei eisiau drwy’r doniau mae e wedi’u rhoi i ni. Pan wyt ti’n gadael i Dduw roi drwot ti, ac rwyt yn ei anrhydeddu yn dy roi, mae’n dy nesáu ato e. Mae haelioni’n llifo allan o galon sy’n ddiolchgar ac yn trystio, a phan rwyt yn trystio Duw gyda’r hyn sydd gennyt, mae’n dechrau dy drystio di gyda mwy.

Bydd ymarfer yr arferiad hwn yn dy atgoffa nad wyt mewn rheolaeth, ond rwyt yn adnabod yr un sydd mewn rheolaeth - a gall e ddarparu ar gyfer dy holl anghenion.

Gweithredu: Un o wyrthiau enwocaf Iesu oedd gwneud y gorau o’r torthau a physgod oedd gan rywun i’w cynnig. Beth sydd gen ti i’w gynnig? Tria ddod o hyd i le ble gelli di fuddsoddi’r hyn sydd gen ti mewn rhyw ffordd. Dechreua’n fach, neu’n fawr. Jest dos ati

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Make Space for What Matters: 5 Spiritual Habits for Lent

Y Grawys: Tymor o 40 diwrnod o fyfyrdod ac edifeirwch. Mae’n syniad da, ond sut olwg sydd ar ymarfer y Garawys mewn gwirionedd? Dros y 7 diwrnod byddi'n darganfod pum arferiad ysbrydol y gelli di ddechrau eu gwneud yn ystod y Grawys i baratoi dy galon ar gyfer Sul yr Atgyfodiad - a thu hwnt.

More

Cafodd y Cynllun Beibl gwreiddiol ei greu a'i ddarparu gan YouVersion.