Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwneud lle ar gyfer yr hyn sy'n bwysig: 5 Arferiad Ysbrydol ar gyfer y GrawysSampl

Make Space for What Matters: 5 Spiritual Habits for Lent

DYDD 2 O 7

Arferion Ysbrydol - Gweddi

Oes yna unrhyw beth sy’n dy stopio rhag siarad â Duw yn gyson?

Yn syml, siarad â Duw yw gweddi, ac yna gwrando arno. Ac oherwydd bod Duw wedi dweud sawl gwaith, “Felly, gweddïwch fel hyn...,” dŷn ni’n gwybod beth mae e’n ddisgwyl i ni weddïo hefyd.

Falle y bydd hi’n cymryd amser i fod yn gyfforddus wrth weddïo, ond dylai ddim dy stopio rhag chwilio am agosatrwydd gydag e.

Mae Duw wastad yna’n disgwyl i agosáu atat ti, a does dim y gelu du ei ddweud wrtho i’w stopio rhag sy garu.

Mae’r Grawys yn amser da i wneud gweddi’n arferiad dyddiol. Os wnei di drio strwythuro dy fywyd o gwmpas Duw heb gymryd yr amser i siarad gyda e, bydd hi’n amhosib iti ffocysu ar Dduw.

Mae’n hawdd tyfu’n ysbrydol pan wyt ti’n onest gyda Duw am dy dyfiant. A phan fyddi’n siarad â Duw am sut mae pethau’n mynd, bydd yn dy atgoffa fod Duw gyda thi go iawn, a’i fod yn llawenhau bod gyda thi. Felly, heddiw, cymer amser i gael sgwrs gyda Duw.

Gweithredu: Os nad wyt ti’n siŵr beth i’w weddïo, trïa weddïo Gweddi’r Arglwydd gan ei pherchnogi.

Ein Tad sydd yn y nefoedd,

dŷn ni eisiau i dy enw di gael ei anrhydeddu.

Dŷn ni eisiaui ti ddod i deyrnasu,.

ac i'r cwbl sy'n dda yn dy olwg di ddigwydd ymaar y ddaear,

fel mae'n digwydd yn y nefoedd.

Rho i ni ddigon o fwydi'n cadw ni'n fyw strong>am heddiw.

Maddau i ni am bob dyled i ti

yn union fel dŷn ni'n maddau i’r rhai sydd mewn

dyled i ni.

Cadw ni rhag syrthio pan fyddwn ni'n cael ein profi,,

ac achub ni o afael y drwg.

Mathew, pennod 6 adnodau 9 i 13 beibl.net

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Make Space for What Matters: 5 Spiritual Habits for Lent

Y Grawys: Tymor o 40 diwrnod o fyfyrdod ac edifeirwch. Mae’n syniad da, ond sut olwg sydd ar ymarfer y Garawys mewn gwirionedd? Dros y 7 diwrnod byddi'n darganfod pum arferiad ysbrydol y gelli di ddechrau eu gwneud yn ystod y Grawys i baratoi dy galon ar gyfer Sul yr Atgyfodiad - a thu hwnt.

More

Cafodd y Cynllun Beibl gwreiddiol ei greu a'i ddarparu gan YouVersion.