Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Cyflawni Busnes yn OruwchnaturiolSampl

Doing Business Supernaturally

DYDD 6 O 6

Dydy dynion marw ddim yn mynd ar y zipline

Ddoe fe siaradon ni am beidio croeshoelio’r dyn atgyfodedig. Pan fyddwn yn byw’r bywyd atgyfodedig...gan wybod fod Duw drosom ni ac mae ei Ysbryd ynom ni... dŷn ni’n cerdded mewn ryw hyfdra hyderus. Mae hwn yn ffordd o fyw na fydden ni fyth yn ei brofi pan fyddwn ar goll yn ein pechod a’n trueni.

Treuliais flynyddoedd mewn eglwys oedd ag obsesiwn am ostyngeiddrwydd. Nid y math iachus. Wnaethon ni ddim troi llawer o bobl at Grist. Pan ddechreuais gerdded mewn pŵer atgyfodedig, dechreuais i lawr llwybr o antur! Dw i erioed wedi cael cymaint o hwyl na byw’r ffordd newydd yma o fyw. A dydy e ddim allan o gyrraedd i ddim un ohonom sydd gyda’r Ysbryd yn byw o’n mewn.

Dw i eisiau rhannu stori am Mark oedd yn gweithio mewn cwmni oedd â pherchennog Iddewig oedd yn anffyddiwr. Roedd Mark yn dysgu am fyw allan y bywyd atgyfodedig, a phenderfynodd ddechrau gweddïo dros ei gydweithwyr.

Un diwrnod clywodd bod yr anffyddiwr yn dioddef o feigryn. Cymerodd Mark naid o ffydd a chynnig i weddïo drosto am iachâd. Mewn anobaith llwyr cytunodd y bos. Gweddïodd Mark weddi fer a iachawyd y dyn yn y fan a’r lle! Roedd y bos mewn syndod ond dydy’r stori ddim yn darfod yn y fan yna.

Yn fuan iawn yn ddiweddarach, rhentwyd amser mewn lleoliad zipline yn ystod cynhadledd ddiwydiannol yn Las Vegas. Roedd hwn yn gyfle pwysig i arweinyddion y cwmni i gysylltu â’u cleientiaid. Yn anffodus, wrth i’r digwyddiad ddechrau, dynesodd storm ddrwg. Dwedodd peiriannydd y zipline ei fod am atal defnyddio’r safle. Roedd hi’n rhyw beryglus i ddefnyddio’r zipline gyda storm ar ei ffordd.

Roedd yr anffyddiwr yn anfodlon. “Mark, tyrd yma.” Dwedodd y bos wrtho am weddïo bod y storm yn cadw draw o’u gweithgaredd zipline.

Nawr, dydw i ddim yn gwybod amdanoch chi ond baswn i’n meddwl fod hynny’n fygythiol. Mae cur pen yn un peth, ond roedd hyn yn storm enfawr. Fyddai Duw’n ateb hyn? Oes rhywun wedi trio hyn ers Iesu?

Wel roedd hyn yn ofyn mawr. Aeth Mark rownd o’r golwg rownd y gornel ac anfon testun i’w deulu a ffrindiau i ofyn iddyn nhw weddïo. Roedd hi’n amser i Dduw greu argraff! Wrth anfon testun gallai glywed llais y bod yn gweiddi gerllaw. Roedd wedi casglu’r cleientiaid o’i gwmpas i esbonio sut byddai hyn yn digwydd...

“Nawr dych chi wedi clywed bod y storm ‘ma’n mynd i achosi cau’r zipline. Ond mae Mark, aelod o’n staff, yn mynd i ddweud gweddi fach a bydd y storm yn mynd i gyfeiriad arall a chawn gario ‘mlaen. Diolch am eich amynedd.”

.

Suddodd calon Mark Ond tua’r adeg yna daeth testun nôl gan ffrind oedd wedi cael darlun o rywbeth fel “cromen o amddiffyniad” dros y zipline. Yn llawn hyfdra daeth Mark yn ôl i’r golwg a gweddïo i’r storm newid cyfeiriad.

Parhaodd y storm i ddod i’w cyfeiriad. Ond yna digwyddodd rhywbeth od. Ymddangosodd fel bod cymylau’r storm yn rhannu’n ddau. Aeth y storm heibio i’r chwith a dde a chafodd y zipline ddim defnyn o law. Tynnodd rhywun oedd gryn bellter o’r safle lun o’r olygfa, ac roedd yn ymddangos fel bod cromen dros y zipline. Ardal lle na wnaeth hi lawio.

Cafodd Duw ei ogoneddu. Mae llawer o bobl wedi’u cyffwrdd mwy na thebyg ac mae’r stori yna wedi mynd yn bell. Roedd dylanwad Mark wedi cynyddu ym marn y prif swyddog. Pwy feddyliet ti y bydd y bos o bosib yn galw arno pan fydd ganddo benderfyniad anodd i’w wneud?

Wnest ti sylwi nad oedd angen i Mark fod yn brif swyddog i gael dylanwad? Fel Daniel, Joseff ac Esther yn yr Hen Destament, does dim rhaid i ti fod yn brif swyddog i chwarae rôl bwysig.

Gallai dylanwad Marc effeithio’n ddirfawr ar gynhyrchion newydd, polisïau corfforaethol, a chyfeiriad y cwmni i’r dyfodol. Ac fel y cymeriadau Hen Destament, falle mai Mark fyddai’r bos yn galw arno gyntaf mewn argyfwng.

Beth amdanat ti? Wyt ti’n gosod dy hun mewn sefyllfa i ddylanwadu ar ddiwylliant? Wyt ti’n trystio y bydd Duw’n gweithio gyda thi i ddod â’r Nefoedd i’r Ddaear? Mae’r byd yn gweiddi allan am atebion i broblemau bach a mawr o bob math. Mae’r problemau enfawr ddaeth gyda’r pandemig diweddar wedi dangos hynny.

Mae Duw’n disgwyl i ni fynd ar ôl ei gyngor a’i mewnwelediad fel y gallwn gymhwyso atebion y nefoedd i’r ddaear a dysgu ei ffyrdd drwy ddangos ei atebion i broblemau’r byd. Mae’r hyn wnaeth Iesu ei ddangos wrth iachau cyrff yr un pŵer all drawsnewid eich busnes...a chymuned..a’r cenhedloedd.

Dim ond y dechrau yw hyn. Os wyt ti eisiau ymuno â chymuned o gredinwyr, wedi’u grymuso i gynnal busnes yn oruwchnaturiol, clicia hwnLINK i ddysgu mwy. Gallwn wneud hyn gyda’n gilydd!

Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Doing Business Supernaturally

Wnes i gredu mewn celwydd am flynyddoedd. Mae’r celwydd hwn yn llawer rhy gyffredin mewn cylchoedd Cristnogol. Roeddwn i'n credu mewn deuoliaeth seciwlar-gysegredig. Ac fe wnaeth e fy nal i nôl. Ymuna â fi i ddod â’r Nefoedd i’r Ddaear ac i lwyddo mewn busnes a bywyd. Mae gynnon ni fwy o gyfleoedd i effeithio ar y byd na’r rhan fwyaf o “weinidogion llawn amser” ac fe wnaiff y cynllun Beibl hwn ddangos i ti sut!

More

Hoffem ddiolch i Gateway Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i http://dbs.godsbetterway.com