Cyflawni Busnes yn OruwchnaturiolSampl
Wyt ti wedi clywed am beth ddigwyddodd yn Almolonga, Gwatemala?
Ddoe fe siaradon ni am beth mae’n ei olygu pan mae Duw’n dod â’r Nefoedd i’r ddaear. Drwy ein busnesai. Heddiw fe welwn sut olwg sydd ar bethau ar y ddaear.
Roedd Almolonga, Gwatemala yn lle ofnadwy ac roedd dewiniaeth yn eang. Roedd cam-drin, llofruddiaeth, a throseddau eraill yn rhemp. Roedd eu pedwar carchar yn orlawn, ac roedd hi’n arferol i drosglwyddo carcharorion mewn bysiau i ddinasoedd eraill. Roedden nhw’n ardal amaethyddol ond roedd y tir yn ddiffrwyth.
Ar ôl bron cael ei lofruddio roedd un ffarmwr wedi cyrraedd pen ei dennyn. Mewn anobaith llwyr aeth ar ei liniau ac ail gysegrodd ei fferm, bywyd, a thrwodd yr ardal i Dduw. Ymunodd ffermwyr eraill gydag e ac fe weddïodd nhw y byddai Duw yn bendithio’n helaeth tirwedd a ymddangosai’n felltigedig. Fe weddïon nhw y byddai eu cornel bach nhw o’r Ddaear yn debyg i’r Nefoedd (Mathew, pennod 6, adnod 10).
. 25). Gwrthododd pobl eu heilunod. Aethon nhw o fynd i fariau i fynychu’r eglwys. Dechreuodd llawer oedd yn ddiog weithio’n galed. Cafodd priodasau eu hachub a chymododd gelynion.Dros y blynyddoedd canlynol, aeth Almolonga o fod â 36 bar i dri. Caeodd y pedwar carchar yn y dre, a chafodd o leiaf un ei ailfodelu fel “The Hall of Honor.” Mae’r maer sy’n Gristion ac arweinwyr eglwys yn credu bod 80% o frodorion bellach yn Gristnogion.
o’r UDAUn o’r canlyniadau dramatig yw ym myd amaethyddiaeth. Am flynyddoedd roedd cnydau wedi dioddef o sychder ac arferion ffermio gwael. Nawr, mae’r tirwedd yn cynhyrchu hyd at 3 cynhaeaf y flwyddyn. Roedd ffermwyr Almolonga yn arfer anfon pedwar lori o gnwd i’r marchnadoedd bob mis. Nawr maen nhw’n anfon 40 llond lori pob wythnos. Mae ffermwyr yn talu arian parod am dryciau anferth Mercedes ac yn eu haddurno ag adnodau o’r Beibl ac ymadroddion Cristnogol.
Mae’r cnydau wedi newid hefyd. Mae llysiau’n tyfu i ddwywaith eu maint. Mae moron yn tyfu i faint penelin dyn. Mae ymchwilwyr amaethyddol wedi ymweld ag Almolonga o’r UDA, a mannau eraill, i drio deall sut maen nhw’n derbyn cynaeafau blynyddol lluosog o gnydau anferth. Ond dydyn nhw ddim yn darganfod yr hyn ro’n nhw’n ei ddisgwyl.
Iachaodd Duw eu tir.
Wyt ti’n meddwl bod yr Arglwydd yn gofalu am dy dir di hefyd.
Am y Cynllun hwn
Wnes i gredu mewn celwydd am flynyddoedd. Mae’r celwydd hwn yn llawer rhy gyffredin mewn cylchoedd Cristnogol. Roeddwn i'n credu mewn deuoliaeth seciwlar-gysegredig. Ac fe wnaeth e fy nal i nôl. Ymuna â fi i ddod â’r Nefoedd i’r Ddaear ac i lwyddo mewn busnes a bywyd. Mae gynnon ni fwy o gyfleoedd i effeithio ar y byd na’r rhan fwyaf o “weinidogion llawn amser” ac fe wnaiff y cynllun Beibl hwn ddangos i ti sut!
More