Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Cyflawni Busnes yn OruwchnaturiolSampl

Doing Business Supernaturally

DYDD 4 O 6

Potensial Diderfyn

Wyt ti’n sylweddoli dy botensial?

Falle nad wyt ti’n sylweddoli, ond mae gen ti fwy o botensial na Bill Gates! Mae gan un o ddynion cyfoethocaf y byd gyfyngiadau difrifol na ddylai dy ddal di nôl os wyt ti’n un o ddilynwyr Crist. Gad i ni adolygu’r ffeithiau...

1. Cafodd Bill Gates ei greu ar ddelw Duw ei hun.(Genesis pennod 1, adnod 27) Roedd ein Creawdwr yn edrych mewn drych pan greodd e Bill. Ac mae Bill wedi gwneud yn fawr o hyn. Ond mae hyn yn berthnasol i chithau frodyr a chwiorydd.

2. Mae Crist yn byw ynot ti, gobaith y gogoniant. (Colosiaid pennod 1, adnod 27). O’r hyn welwn ni, dydy’r fantais yma ddim gan Bill.

3 Mae meddwl Crist gennyt ti. (1 Corinthiaid pennod 2, adnod 16) Eto, o’r hyn welwn ni, dydy’r fantais yma ddim gan Bill.

4. Mae’r Ysbryd Glân, Duw’n byw o’th mewn. (1 Corinthiaid pennod 3, adnod 16) Eto, mantais arall sydd gen ti dros Mr. Gates.

Felly, ellid dweud fod Bill Gates ond prin yn gweithio ar chwarter dy allu di? Fy ffrindiau mae’n rhaid i ni ddechrau credu yn ein hiachawdwriaeth ein hunain, a’r goblygiadau ar gyfer ein bywydau a’n busnesau.

Os yw Bill ac eraill wedi cyflawni cymaint ag y maen nhw wedi heb fynediad i Ysbryd Duw, a heb y llyffetheiriau y maen nhw wedi'u rhoi arnyn nhw eu hunain o'r ddeuoliaeth seciwlar-gysegredig, meddylia beth allet ti ei wneud! Ystyria’r mynediad sydd gen ti i’r doethineb dwyfol a chreadigedd.

Mae’n amser i ni briodi ein ffydd a’n busnesau. Mae’n amser i ti a fi ddod ag atebion creadigol ac arloesol Duw i ddatrys problemau byd. Mae yna broblemau ymhobman. Mae rhaid raddfa fyd-eang, ac mae eraill yn ymddangos yn llai arwyddocaol. Ond os yw’n bwysig i ti, mae’n bwysig i Dduw.

Roedd Matt McPherson yn efengylwr ac arweinydd mawl. Roedd hefyd yn mwynhau hela gyda bwa. Un diwrnod clywodd lais Duw'n dweud, “Dw i’n gwybod beth yw’r ateb i bob problem yn y byd. Pe bai dynion ddim ond yn gofyn imi byddwn i’n rhoi’r atebion iddyn nhw.

Nawr, gallai Matt fod wedi gofyn am yr ateb i newyn yn y byd. Neu sut i greu gweinidogaeth fawr. Ond wnaeth e ddim. Gofynnodd e i Dduw ei helpu i greu bwa cyfansawdd gwell.

Ti’n gweld crëwyd bwâu gyfansawdd yn y 60au, ac roedd ganddyn nhw ddwy linc fecanyddol. Ond roedd dylunwyr wedi stryglo am dros ddegawd i gael y ddwy linc i gyd-amseru’n berffaith, ond roedden nhw wedi methu. Achosodd y diffyg cyd-amseru anelu gwael, problem amlwg i helwyr.

Tua phythefnos yn ddiweddarach deffrodd Matt ynghanol y nos. Dwedodd bod rhywbeth fel tudalen o bapur wedi ymddangos o flaen ei wyneb. Roedd diagram o fwa cyfansawdd wedi’i dynnu â llaw arno. Eisteddodd i fyny yn y gwely s chopïo’r llun. Sylweddolodd ei fod yn hollol wahanol i unrhyw fwa cyfansawdd roedd wedi’i wneud o’r blaen. Roedd gan y bwa linc unigol.

Rwyt siŵr o fod yn gwybod bod Honda yn gwerthu lot o geir a gwneud elw bach ar bob car, tra bod Rolls Royce yn gwerthu fawr ddim o geir ond yn gwneud elw mawr ar bob car. Dechreuodd Matt McPherson Mathews Inc...a nhw nawr yw’r gwneuthurwr bwâu mwyaf yn y byd. Yn wahanol i Honda mae Matthews yn gwneud elw mawr ar bob un bwa.

Aeth Matt yn ei flaen i greu math newydd o gitâr acwstig, yn ogystal â chwmni McPherson Guitars; ystyrir ymysg goreuon y byd. Busnes Matt yw ei weinidogaeth. Ac mae Matt yn dal i gerdded o gwmpas ei ganolfan siopa lleol yn Wisconsin yn rhannu’r Efengyl. Mae e wedi cadw Duw yn gyntaf ym mhopeth y mae’n ei wneud.

Felly, pam ddim ti? Pam na allai duw ddim dy ddefnyddio di i ddatrys problem ar raddfa genedlaethol...neu’n dy gymuned neu gwmni? Mae’r byd yn crïo allan am atebion, ac mae gan bobl Dduw i strategaethau dwyfol fydd yn iachau cenhedloedd a dod â heddwch. Nawr, mae’n amser gofyn.

Pan ddwedes i wrthot ti gyntaf am weddi Matt McPherson uchod wnest ti synnu? Wyt ti’n meddwl y byddai person mwy duwiol wedi gofyn am rywbeth nwy....duwiol? Os felly, falle dy fod wedi syrthio i mewn i drap y ddeuoliaeth seciwlar-gysegredig.

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Doing Business Supernaturally

Wnes i gredu mewn celwydd am flynyddoedd. Mae’r celwydd hwn yn llawer rhy gyffredin mewn cylchoedd Cristnogol. Roeddwn i'n credu mewn deuoliaeth seciwlar-gysegredig. Ac fe wnaeth e fy nal i nôl. Ymuna â fi i ddod â’r Nefoedd i’r Ddaear ac i lwyddo mewn busnes a bywyd. Mae gynnon ni fwy o gyfleoedd i effeithio ar y byd na’r rhan fwyaf o “weinidogion llawn amser” ac fe wnaiff y cynllun Beibl hwn ddangos i ti sut!

More

Hoffem ddiolch i Gateway Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i http://dbs.godsbetterway.com