Cyflawni Busnes yn OruwchnaturiolSampl
Ar y ddaear fel mae’n digwydd yn y nefoedd
Ddoe fe ddysgon ni, fel rhai sy’n cyflawni busnes, bod gennym alwad dosbarth cyntaf gan yr Arglwydd. Mae gynnon ni’r cyfle i arddangos pŵer Duw mewn ffyrdd unigryw a nerthol i fyd toredig sy’n hiraethu am atebion. A dylai hyn effeithio ar y ffordd dŷn ni’n gweddïo.
Dŷn ni’n gweddïo Gweddi’r Arglwydd ond beth mae hi’n ei olygu go iawn? A beth mae’n ei olygu i fusnesau?Yr ystyr yw, os nad yw yn y nefoedd dylai ddim bod ar y ddaear ychwaith. Os yw yn y nefoedd, yna, dylai fod yna fy mywyd neu deulu, neu fusnes. Mae hynny’n cynnwys bod yn anfaddeugar, gwrthdaro a methiant mewn busnes. Mae’n cynnwys gweithwyr gwael a penaethiaid gwael. Ac mae’n cynnwys crefftwaith gwael, a gwasanaeth cwsmeriaid gwael. Does dim un o’r rhain yn rhan o gynllun Duw.
Felly, sut olwg sydd ar bethau pan mae Teyrnas Nefoedd yn goresgyn Teyrnas y Ddaear?
Mae ewyllys Duw’n cael ei weithredu ar y Ddaear. Mae’r bobl, busnesau, a’r gymuned yn ffynnu. Mae’r gwrthdrawiad yn golygu gwell diwylliant. Mae cwsmeriaid yn derbyn y nwyddau a gwasanaethau maen nhw eu hangen, ac mae’r perchennog a gweithwyr yn ffynnu.
Mae gogoniant, cariad, a phŵer Iesu’n cael ei arddangos. Mae safon gwaith gweithwyr yn well ac maen nhw’n dod yn well priod, rhieni, ffrindiau, ac aelodau o’r eglwys. Mae cyfran fach o’r byd hwn yn symud nes at y cynllun yn Eden.
Pan mae hyn yn gywir, dŷn ni’n gweddïo’n wahanol. Am ddegawdau fel arweinydd busnes, gweddïais am genhadu, salwch a thyfiant yr eglwys. Gweddïais dros deulu a ffrindiau. Ond teimlais yn anghyfforddus wrth ofyn i Dduw fy helpu mewn busnes. Roedd hyn yn rhan o’r ddeuoliaeth ffug y soniais amdano ddoe. Ydy dy fywyd gweddïo yn dioddef o’r celwydd hwn?
Roedd yna ddyn oedd yn adnewyddu hen ddodrefn fel bywoliaeth. Sylweddolodd fod y cemegau’n llym iawn ac yn gallu achosi problemau iechyd hirdymor,,, a phenderfynodd y byddai’n rhoi gorau i’r busnes os na allai ddod o hyd i ateb amgen. Roedd yn gweithio’n ei siop i drio creu cemegyn newydd i stripio pren oedd yn organig a ddiwenwyn. Ond roedd ei safonau’n uchel ac roedd eisiau iddo weithio gystal â’r mathau cemegol. Roedd e a’i wraig yn gofyn i Dduw am ateb.
Un diwrnod daeth adre gyda chinio i’w wraig. Roedd yn feichiog, ac wrth iddo ddeffro o gymryd nap, dwedodd wrtho am freuddwyd gafodd gyda chyfres ryfedd o lythrennau. Sylweddolodd y dyn mai fformiwla gemegol oedd hyn. Aeth yn ôl i’r siop a chyfuno’r cemegau hyn â’i gilydd.
Fel mae’n digwydd, dyma oedd y fformiwla berffaith ar gyfer stripiwr pren di-wenyn. Ac roedd yn gweithio gystal â brandiau masnachol. Cyn bo hir gwerthodd y cwpl y patent i gorfforaeth fawr. Prynon nhw RV neis fel bod ganddyn nhw’r gallu i deithio America i genhadu.
Oes gen ti angen doethineb ar gyfer dy fusnes heddiw? Wyt ti’n gweld problemau’n dy fyd sydd angen atebion? Fedraf i dy sicrhau bod yr atebion gan Dduw, ac mae e’n barod i’th ddefnyddio i ddod â nhw o’r Nefoedd i’r Ddaear. Dy waith di yw gofyn...a disgwyl ateb.
Ond pan ddaw e, sef yr Ysbryd sy'n dangos y gwir i chi, bydd yn eich arwain chi i weld y gwir i gyd. Fydd e ddim yn siarad ar ei liwt ei hun - bydd ond yn dweud beth mae'n ei glywed, a bydd yn dweud wrthoch chi beth fydd yn digwydd. Ioan pennod 16, adnod 13
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Wnes i gredu mewn celwydd am flynyddoedd. Mae’r celwydd hwn yn llawer rhy gyffredin mewn cylchoedd Cristnogol. Roeddwn i'n credu mewn deuoliaeth seciwlar-gysegredig. Ac fe wnaeth e fy nal i nôl. Ymuna â fi i ddod â’r Nefoedd i’r Ddaear ac i lwyddo mewn busnes a bywyd. Mae gynnon ni fwy o gyfleoedd i effeithio ar y byd na’r rhan fwyaf o “weinidogion llawn amser” ac fe wnaiff y cynllun Beibl hwn ddangos i ti sut!
More