Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Cyflawni Busnes yn OruwchnaturiolSampl

Doing Business Supernaturally

DYDD 1 O 6

Deuoliaeth Ffug

Wnes i gredu celwydd am y 28 mlynedd o’m bywyd fel Cristion.

Mae’n gelwydd sy’n llawer rhy gyffredin mewn cylchoedd Cristnogol, ac os wyt ti’n berson busnes dw i’n tybio dy fod wedi stryglo gydag e hefyd,

Ro’n i’n credu mewn deuoliaeth sanctaidd seciwlar. Ac fe wnaeth e achosi imi weithredu yn si na fy ngallu, mewn busnes yn ogystal â’r eglwys.

Gad imi esbonio...

Pan ddechreuais ddilyn Crist yn ystod fy mlwyddyn olaf yn y coleg, roedd gen i ryw femo meddyliol oedd yn dweud fod y rhai hynny oedd wirioneddol o ddifri am eu ffydd yn mynd i mewn i waith gweinidogaethol. Wedi’r cyfan, mae’r cofiannau, pregethau, a phulpudau yn llawn o’r rheiny sydd wedi “ildio popeth er mwyn Iesu”, ac aeth ddim un i mewn i fusnes (neu felly oedd hi’n ymddangos).

Felly, ro’n i’n teimlo’n israddol. Wnes i ystyried rhoi’r gorau i’m rhaglen MBA a mynd i’r Coleg Beiblaidd. Teimlais os baswn i’n aros mewn busnes y byddwn i’n Gristion anghyflawn, a’i rôl yn yr eglwys fyddai i fod ar bwyllgor cyllidol, neu i lenwi’r plât casglu i ariannu’r rheiny oedd yn gwneud y gwaith go iawn dros Dduw. Y rheiny oedd mewn gweinidogaeth lawn amser.

Ond methais adnabod y ffaith fy mod wedi fy nrafftio i mewn i weinidogaeth lawn amser ar y diwrnod y cefais fy achub. Ac felly hefyd tithau.

Methais sylweddoli hefyd nad yw busnes yn alwad israddol Mae’r un mor gymeradwy a bod yn y pulpud.

Dim Deuoliaeth

Does dim deuoliaeth rhwng sanctaidd a seciwlar. Mae popeth yn ysbrydol. Mae Teyrnas Dduw yn ymestyn dros bob rhan o fywyd, nid jest tu mewn i bedair wal yr eglwys Ac yn amlach na pheidio mae gynnon ni ddynion busnes gyswllt mwy effeithiol ac ehangach gyda’r byd na fyddai gan weinidog arferol. Ac yn ogystal, dangos cariad a phŵer Duw mewn ffyrdd annisgwyl.

Addawodd i fod gyda ni a byddai ei Ysbryd yn ein harwain i mewn i’w holl wirionedd. Dydy dy fusnes di heb ei eithrio o’r addewid hwn. Mae hynny’n newyddion gwych yn tydi?

Mae Duw’n disgwyl i ni wrando ar ei gyngor a’i fewnwelediad fel ein bod yn gallu gweithredu ateb y nefoedd ar gyfer y Ddaear a dysgu ei ffyrdd trwy ddangos ei atebion i broblemau’r byd. Mae’r byd wedi torri ac yn crïo allan am atebion (Rhufeiniaid, pennod 8, adnod 19). Mae gynnon ni fynediad at atebion... gan yr Ysbryd Glân. Dylen ni ddisgwyl bod yn arloeswyr, crewyr, dyfeiswyr, a dylunwyr atebion i waedd y ddynoliaeth.

Mae’r hyn ddangosodd Duw drwy iachau cyrff yr un peth â’r pŵer all drawsnewid dy fusnes...a chymuned...a’r cenhedloedd.

Wyt ti wedi ymwrthod â’r ddeuoliaeth seciwlar-gysegredig? Wyt ti’n partneru i ddod â'r Nefoedd i'r Ddaear yn dy faes busnes a bywyd heddiw?

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Doing Business Supernaturally

Wnes i gredu mewn celwydd am flynyddoedd. Mae’r celwydd hwn yn llawer rhy gyffredin mewn cylchoedd Cristnogol. Roeddwn i'n credu mewn deuoliaeth seciwlar-gysegredig. Ac fe wnaeth e fy nal i nôl. Ymuna â fi i ddod â’r Nefoedd i’r Ddaear ac i lwyddo mewn busnes a bywyd. Mae gynnon ni fwy o gyfleoedd i effeithio ar y byd na’r rhan fwyaf o “weinidogion llawn amser” ac fe wnaiff y cynllun Beibl hwn ddangos i ti sut!

More

Hoffem ddiolch i Gateway Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i http://dbs.godsbetterway.com