Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Cyflawni Busnes yn OruwchnaturiolSampl

Doing Business Supernaturally

DYDD 5 O 6

Paid â chroeshoelio'r dyn atgyfodedig

Wrth i ni wneud busnes yn oruwchnaturiol, mae’n gritigol nad ydyn ni’n croeshoelio’r dyn atgyfodedig.

Aros am funud... beth?

Tua saith gwaith yn yr Efengylau, gorchmynnodd Iesu i'w ddilynwyr farw i ni ein hunain. Rwy’n cymryd bod hynny’n golygu ein bod yn marw i’n chwantau drwg hunan-ganolog ein hunain ac yn rhoi’r Deyrnas a’r Brenin yn gyntaf.

Yn Rhufeiniaid, pennod 6 i 8, mae Paul yn cyfeirio at fyw’r bywyd atgyfodedig ryw 40 gwaith. Dyma yw’r alwad i ni...i fyw ym mhŵer atgyfodedig Iesu am weddill ein bywydau.

“Ond aros am funud,” dw i’n clywed rhywun yn dweud, “ fod Ioan Fedyddiwr wedi dweud, ‘ iddo fe ddod i'r amlwg; rhaid i mi fynd o'r golwg.’ Onid hynny ddylai ein gweddi ni fod?”

Yn gyffredinol, dw i ddim yn meddwl, cynrychiolodd Ioan ddiwedd cyfnod. Roedd yr Hen Gyfamod yn gorffen. Diwedd oes y Gyfraith a'r Proffwydi. Roedd John a'i neges yn dod i ben.

Byddai marwolaeth ac atgyfodiad Iesu yn arwain at oes newydd mewn hanes y ddynoliaeth. Roedd math newydd o greadigaeth ar fin ymddangos. Dynoliaeth gyda Duw o’u mewn. Dyna’n union wyt ti.

Felly, falle bod angen i dy ffocws newid. Yn hytrach na ffocysu ar beth i'w ladd o’th fewn, falle ei bod hi’n amser i weld beth mae’r Ysbryd eisiau ei gynyddu o’th fewn. (Dydy ffocysu ar ladd pechod ddim yn gweithio beth bynnag. Mae ffocysu ar gynyddu ein hangerdd am Iesu yn the feddyginiaeth yn erbyn pechod.)

Rwyt ti a fi wedi ein galw i ladd hunanoldeb. Ond nid i ladd y dyheadau mae’r Ysbryd yn eu deffro o’n mewn. Chi yw'r amlygiad allanol, corfforol o Iesu yn byw ar y Ddaear heddiw. Mae'r Ysbryd Glân yn dy wisgo fel maneg.

Bydd yr Arglwydd yn defnyddio dy ddewisiadau, dyddymuniadau, dyangerdd, doniau, personoliaeth, a’th edrychiad. Mewn blynyddoedd blaenorol roedd hyn wedi fy nrysu dros y blynyddoedd aeth heibio. Ro’n i’n credu fod fy awydd i lwyddo mewn busnes yn rhan o’m hunanoldeb roedd angen imi ei ladd. “,,,rhaid imi fynd o’r golwg,” Ond mae'n debyg bod hynny'n rhan o'r ddeuoliaeth seciwlar-gysegredig ffug honno. Wedi'i danio gan lais y gelyn.

Dylai arweinwyr sy’n llawn o’r Ysbryd fod ar y blaen mewn busnes, dyfeisiadau, technoleg, ffasiwn, celfyddyd, a cherddoriaeth. Ond chyrhaeddwn ni fyth os ydyn ni jyst yn trio lladd y dyn atgyfodedig.

Chyrhaeddwn fyth y lle hwnnw os ydyn ni’n genfigennus o rywun. Os wyt yn deall galwad Duw ar dy fywyd, angerdd Duw drosot ti, a gallu diderfyn i ddod â’r Nefoedd i’r Ddaear drwot ti, fyddet ti fyth eisiau bod yn rhywun arall. Darllen y frawddeg yna eto a meddwl am y peth.

Felly, pa ddymuniadau mae Duw wedi’u gosod o’th fewn? Wyt ti’n farw i freuddwydion mae Duw eisiau eu hatgyfodi? A pha freuddwydion newydd mae e eisiau i ti fynd ar eu hôl heddiw? Dw i’n gweddïo y byddi di’n cerdded yn dy dynged a galwad llawn, gan fyw dy fywyd i’w llawn botensial. Bydd e’n cael ei ogoneddu a byddi di’n cael bywyd llawn profiadau.!

Cofia, “Mae'n gwneud llawer iawn mwy na dim y bydden ni'n mentro gofyn amdano na hyd yn oed yn gallu ei ddychmygu!” (Effesiaid pennod 3, adnodau 20-21)

Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Doing Business Supernaturally

Wnes i gredu mewn celwydd am flynyddoedd. Mae’r celwydd hwn yn llawer rhy gyffredin mewn cylchoedd Cristnogol. Roeddwn i'n credu mewn deuoliaeth seciwlar-gysegredig. Ac fe wnaeth e fy nal i nôl. Ymuna â fi i ddod â’r Nefoedd i’r Ddaear ac i lwyddo mewn busnes a bywyd. Mae gynnon ni fwy o gyfleoedd i effeithio ar y byd na’r rhan fwyaf o “weinidogion llawn amser” ac fe wnaiff y cynllun Beibl hwn ddangos i ti sut!

More

Hoffem ddiolch i Gateway Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i http://dbs.godsbetterway.com